Neidio i'r prif gynnwy

OpenAthens Single Sign-on

 

 

OpenAthens Single Sign-on

 

Beth yw OpenAthens Single Sign-on? Bydd hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr GIG Cymru ddilysu i e-adnoddau lleol a chenedlaethol fel e-Gyfnodolion, cronfeydd data a chrynodebau tystiolaeth gan ddefnyddio eu cyfeiriadau e-bost a'u cyfrineiriau GIG Cymru, a bydd yn lleihau'r angen i gofio enwau defnyddwyr a nifer o gyfrineiriau i gael mynediad at e-adnoddau.

Sut olwg fydd ar fewngofnodi:

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi gydag OpenAthens gyntaf, byddwch bellach yn sylwi ar ddau opsiwn y gallwch chi eu dewis:

 

 

Yr opsiwn cyntaf, sef “cyfeiriad e-bost GIG Cymru,” yw’r dull newydd. Bydd yn caniatáu i unrhyw un sydd â chyfeiriad e-bost GIG Cymru fewngofnodi gan ddefnyddio'r e-bost GIG Cymru hwnnw a'r cyfrinair y mae’n ei ddefnyddio i fewngofnodi i ddyfeisiau neu systemau GIG Cymru. Efallai y bydd y math hwn o fewngofnodi bellach yn teimlo'n gyfarwydd i'r nifer fawr o ddefnyddwyr sy'n cyrchu meysydd gwaith eraill, fel SharePoint a Skype, a hynny heb VPN. 

Yr ail opsiwn “OpenAthens” yw’r dull hirsefydlog a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer mewngofnodi i OpenAthens, gan ddefnyddio’r manylion mewngofnodi sydd eisoes gan lawer o bobl, neu a gafwyd fel arall drwy hunan-gofrestru. Bydd hyn yn parhau i weithio yn yr un ffordd ag y gallech fod wedi arfer ag ef.

 

 

 

Profiad Defnyddiwr e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru

 

Ar ôl cofrestru a mewngofnodi, bydd defnyddwyr yn gallu cyrchu holl e-adnoddau GIG Cymru ac e-adnoddau llyfrgelloedd lleol heb fod angen mewngofnodi eto am weddill y sesiwn, hyd yn oed oddi ar y safle, bron yn ddieithriad, heblaw am yr achosion prin lle nad oes adnoddau ar gael ond ar rwydwaith GIG Cymru, megis iRefer.

I weld sut olwg sydd ar yr opsiynau cael mynediad, cliciwch ar y ddolen isod i weld ein fideo.