Neidio i'r prif gynnwy

e-Lyfrau

 

 

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn rhoi mynediad at bron 1,400 o e-Lyfrau, y gellir chwilio amdanynt yn ôl teitl gan ddefnyddio’r offeryn darganfod.

Os ydych yn chwilio am e-Lyfr penodol, gallwch ddefnyddio’r blwch chwilio hwn i ddod o hyd i deitlau gan chwilio am enw llawn y llyfr

Eisiau chwilio o gyflenwr yr e-Lyfr?

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn defnyddio tri chyflenwr gwahanol ar gyfer e-Lyfrau:

Browns Books (VLe)

Cambridge University Press (Stahl Online)

Ebsco (e-Books)

Elsevier (Clinical Key a Clinical Key Nursing)

Lawrlwytho e-Lyfrau:

Gallwch lawrlwytho penodau neu rannau o benodau o’r e-Lyfrau i’w darllen o’ch porwr neu pan na fyddwch ar-lein. Bydd rhai cyhoeddwyr yn cyfyngu nifer y tudalennau y gallwch eu lawrlwytho ar adeg benodol. Bydd y rhain yn cael eu lawrlwytho ar ffurf PDF.

Ar gyfer e-Lyfrau y gellir eu lawrlwytho’n llawn, bydd angen meddalwedd ychwanegol arnoch, sef Adobe Digital Editions, y gellir cael mynediad ati dim ond yn dilyn anfon cais at eich adran TG leol. Os byddwch yn defnyddio dyfais bersonol, gallwch eu lawrlwytho drosoch chi’ch hun. Anfonwch geisiadau at eich adran TG leol os bydd angen y feddalwedd ychwanegol hon arnoch.

Ni fydd lawrlwytho ar ddyfeisiau e-ddarllen poblogaidd, megis "Kindle", yn gweithio. Bydd dyfeisiau a all lawrlwytho Adobe Digital Editions yn gweithio, unwaith y bydd meddalwedd Adobe wedi’i gosod (e.e. Kindle Fire, llechi Android ac Apple)

Am ragor o wybodaeth:

VLe Books

Ebsco Books

Rhagor o wybodaeth a chymorth

Sut i ddod o hyd i ardal fewngofnodi GIG Cymru o OpenAthens

Cymorth â mewngofnodi drwy GIG Cymru

Fideos VLe

Chwilio am e-Lyfrau EBSCO – Tiwtorial

Gwneud Argymhelliad: