Neidio i'r prif gynnwy

Telerau Defnydd

Defnydd a Ganiateir

Rhoddir caniatâd i ymwelwyr ag e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru (y wefan hon) gael mynediad at ddeunyddiau a gyhoeddwyd (cynnwys) pwnc i’r telerau hyn. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau defnydd.

Er y gellir gweld, lawrlwytho a defnyddio’r cynnwys at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil preifat, astudio neu ddefnydd mewnol), rhaid i ymwelwyr beidio ag ailgynhyrchu neu ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd gan y wefan / perchennog yr hawlfraint.

Mae’r lluniau, logos a graffeg a ddefnyddir ar y safle hwn yn berchen i ni a/neu drydydd partïon. Ni ddylid defnyddio’r rhain heb ganiatâd gan berchennog yr hawlfraint.

Rydych yn cydnabod mai Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a chymdeithion trydydd parti, lle bo hynny’n berthnasol, sy’n berchen ar yr holl hawliau eiddo deallusol sy’n ymwneud â’r wefan hon.

 

Gwybodaeth Bersonol

Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy o’ch gwirfodd ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, holiaduron ac ati), ni fydd yr wybodaeth a gyflwynwyd ond yn cael ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y dibenion y cafodd yr wybodaeth ei chasglu. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr â thrydydd partïon.

 

Amddiffyn rhag Firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau am firysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn gweithredu rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd y byddwch yn ei lawrlwytho o’r we. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb dros unrhyw achos o golli, difetha neu ddifrodi eich data neu eich system gyfrifiadurol, a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.

 

Ymwadiad

Rhaid gofalu i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Fodd bynnag, darperir cynnwys er gwybodaeth gyffredinol yn unig, a bydd ei ddefnyddio yn golygu mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ganlyniadau. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy'n deillio o unrhyw weithred neu anwaith yn sgil defnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.

 

Gwefannau Allanol

Nid yw e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn gyfrifol am gynnwys neu atebolrwydd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn atebolrwydd mewn perthynas â chynnwys nac am amgylchiadau dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar wefannau o’r fath.

Ni ddylid ystyried bod rhestru yn ardystiad o unrhyw fath.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau y mae eu dolenni wedi’u cynnwys ar y wefan, neu dros unrhyw newid i gyfeiriadau’r gwefannau.

Mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn cadw’r hawl i wrthod neu i gael gwared ar ddolenni i unrhyw wefan.

 

Nodwedd Google Translate

Mae gwefannau GIG Cymru, sydd â nodwedd Google Translate wedi’i galluogi, yn cynnig cyfieithiadau gan Google™ Translate, sef gwasanaeth trydydd parti nad oes gan GIG Cymru reolaeth drosto. Nid yw tudalennau wedi’u cyfieithu yn rhan o’r wefan wreiddiol, ac nid oes ganddynt unrhyw gysylltiad â pharth GIG Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfieithiad awtomatig ac felly, ni fydd yn gyfieithiad perffaith a bydd yn dueddol o gael ambell gamgymeriad na fyddai siaradwr go iawn fel arfer yn ei wneud. Dylid defnyddio’r cyfieithiad fel amlinelliad bras yn unig. Nid yw GIG Cymru, mewn unrhyw ffordd, yn derbyn atebolrwydd am gywirdeb y cyfieithiadau hyn ac unrhyw golled o ganlyniad iddynt. 

Diwygiadau’r Dyfodol

Bydd newidiadau dilynol i’r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.