Neidio i'r prif gynnwy

Cronfeydd Data

Databases Icon

Mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn rhoi mynediad at ystod eang o gronfeydd data i ddiwallu anghenion y proffesiynau ac arbenigeddau amrywiol ledled GIG Cymru. Meddyginiaethau a therapïau, iechyd a gofal cymdeithasol, seicoleg, gwybodeg, economeg, busnes a’r gyfraith. Iechyd teithio, bydwreigiaeth, deintyddiaeth, addysg a llawer mwy.

Os ydych ar y safle ac yn defnyddio’r e-Lyfrgell o Rwydwaith GIG Cymru, ni ddylech orfod mewngofnodi gyda’ch cyfrif OpenAthens. Os bydd sgrîn mewngofnodi yn ymddangos ond nid oes gennych gyfrif, gallwch hunan-gofrestru i gael cyfrif.

Cronfa ddata Ageinfo – cronfa ddata lyfryddol lle gellir chwilio am dros 59,000 o lyfrau, erthyglau ac adroddiadau o’r casgliad arbenigol ar gerontoleg gymdeithasol yn y Centre for Policy on Ageing.

 

AMED

Mae AMED  yn cwmpasu detholiad o gyfnodolion mewn meddygaeth, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, adsefydlu, podiatreg, gofal lliniarol a phroffesiynau eraill sy’n berthynol i feddygaeth, o 1985 hyd heddiw. Mae Canllawiau i Ddefnyddwyr ar gael yma pe bai eu hangen arnoch.

(Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru.) ASSIA

(Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru) ASSIA

Nod cronfa ddata ASSIA yw diwallu anghenion gwybodaeth y proffesiynau gofal, ac mae’n cwmpasu llenyddiaeth ar iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, seicoleg, cymdeithaseg, economeg, gwleidyddiaeth, cysylltiadau hiliol ac addysg.

(Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru.) British Nursing Database

(Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru) British Nursing Database

Mae’r British Nursing Database yn cael sylw pwysig testun-llawn gan gyhoeddiadau bydwreigiaeth a nyrsio yn y DU a rhai Saesneg eraill eu hiaith, yn ogystal â theitlau rhyngwladol effaith uchel yn y meysydd hyn. Mae data llyfryddol o’r British Nursing Index (BNI) yn sail i’r cynnyrch hwn, gan ganiatáu i gannoedd o deitlau o erthyglau rheoli ac erthyglau perthynol i iechyd a meddygol perthnasol sy’n dyddio’n ôl i 1993 gael eu crynhoi a’u mynegeio. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Proquest LibGuide: British Nursing Database

Proquest LibGuide: British Nursing Index

Cafodd The Campbell Collaboration ei greu yn sgil cyfarfod yn Llundain yn 1999. Aeth 80 o bobl o bedair gwlad i’r cyfarfod, a llawer o’n chwaer sefydliad, The Cochrane Collaboration. Roedd Cochrane wedi bod yn cynhyrchu adolygiadau systematig mewn gofal iechyd ers 1994, ac roedd llawer o’i aelodau yn gweld bod angen sefydliad a fyddai’n cynhyrchu adolygiadau systematig o dystiolaeth ymchwil ar effeithiolrwydd ymyriadau cymdeithasol.
 

Support for this idea from social and behavioural scientists and social practitioners led to the creation of The Campbell Collaboration in 2000. The inaugural meeting in Philadelphia, USA, attracted 85 participants from 13 countries.

(Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru.)  CINAHL Plus with Full Text

(Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru) CINAHL Plus with Full Text

 

Mae'r gronfa ddata ymchwil gynhwysfawr hon yn darparu testun llawn ar gyfer cyfnodolion nyrsio a pherthynol i iechyd wedi'u mynegeio yn CINAHL Plus. Mae deunyddiau ychwanegol yn cynnwys taflenni gofal testun llawn yn seiliedig ar dystiolaeth, gwersi cyflym a modiwlau addysg barhaus.

 

Ymhlith y cynnwys mae:

340 o gyfnodolion testun llawn, nad oes mynediad agored atynt

7,600,000 o gofnodion

Mynegai 5,600 o gyfnodolion

1,400 o gyfnodolion â chyfeiriadau dyfynedig y gellir eu chwilio

Cynnwys Nyrsio a Pherthynol i Iechyd o'r Ffynonellau Mwyaf Awdurdodol

Mae CINAHL Plus with Full Text yn cynnwys cyhoeddiadau gan y National League for Nursing a’r American Nurses Association. Mae llawer o'r cyfnodolion testun llawn mwyaf poblogaidd ar gael heb unrhyw embargo. Yn ogystal, mae'r adnodd hwn yn cynnig mynediad at lyfrau gofal iechyd, traethodau nyrsio, trafodion cynhadledd dethol, safonau ymarfer, adnoddau clyweledol, penodau llyfrau a mwy.

Mae CINAHL Plus with Full Text yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys nyrsio, biofeddygaeth, llyfrgellyddiaeth gwyddorau iechyd, meddygaeth amgen/gyflenwol, iechyd defnyddwyr ac 17 disgyblaeth perthynol i iechyd.

Mae mwy na 300 o benawdau pwnc newydd wedi'u hychwanegu at CINAHL i helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i gysyniadau newydd, gan gynnwys COVID-19, cadw pellter cymdeithasol a defnyddio e-sigaréts yn ogystal â therminoleg leol newydd megis Canadiaid Brodorol, Cenhedloedd Cyntaf Canada, Cenhedloedd Cyntaf Awstralia, ac Ynyswyr Culfor Torres.

Nodweddion Ychwanegol:

  • Rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio gyda nodweddion chwilio sylfaenol ac uwch a chyfeiriadau dyfynedig y gellir eu chwilio
  • Penawdau Pwnc sy'n helpu defnyddwyr i chwilio ac adfer gwybodaeth yn effeithiol a dilyn strwythur y Penawdau Pwnc Meddygol (MeSH) a ddefnyddir gan y Llyfrgell Feddygaeth Genedlaethol
  • Modiwlau addysg barhaus
  • Cofnodion offerynnau ymchwil
  • Taflenni gofal testun llawn yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Gwersi cyflym testun llawn
  • Cysylltiadau’r awdur

Mae Cochrane Library yn gasgliad o chwe chronfa ddata sy’n cynnwys mathau gwahanol o dystiolaeth annibynnol o ansawdd uchel i lywio penderfyniadau gofal iechyd, ac mae’n cynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig (CDSR). Mae Cochrane Library ar gael i staff y GIG, cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru. Dewch o hyd i ganllawiau ar sut i ddefnyddio’r gronfa ddata yma.

Mae ERIC yn llyfrgell ar-lein sy’n cynnwys ymchwil a gwybodaeth addysgol, sydd wedi’i noddi gan Sefydliad y Gwyddorau Addysg (IES) yn  Adran Addysg UDA. Mae’n cynnwys cofnodion ar gyfer mathau amrywiol o ffynonellau, gan gynnwys cyfnodolion, llyfrau, papurau cynhadledd, canllawiau cwricwlwm, traethodau hir a phapurau polisi.
 

EMBASE: Excerpta Medica

Mae nifer o amrywiadau o gronfa ddata EMBASE ac rydym wedi sicrhau bod y ddau ddarn canlynol ar gael i GIG Cymru.

Dewiswch un o’r opsiynau canlynol, yn dibynnu o ba mor bell yr hoffech chwilio am wybodaeth:


Mae Embase, a gynhyrchwyd gan Elsevier, yn ddelfrydol i unrhyw un yn y byd clinigol, corfforaethol neu academaidd – o feddygon i ddatblygwyr cyffuriau ac o wneuthurwyr dyfeisiau meddygol i fyfyrwyr meddygol – sy’n chwilio am wybodaeth ymarferol, berthnasol neu gyfredol yn ei faes. Mae gan EMBASE bron 29 miliwn o gofnodion, a chaiff dros 1.4 miliwn o gyfeirnodau a chrynodebau eu hychwanegu bob blwyddyn. Roedd yn cynnwys yr holl gyfeirnodau MEDLINE® yn dyddio’n ôl i 1947 a dônt o dros 8,500 o gyfnodolion sydd wedi’u cyhoeddi mewn 90 o wledydd. Mae EMBASE yn cwmpasu’r meysydd canlynol; ymchwil cyffuriau, ffarmacoleg, fferylleg, tocsicoleg, meddygaeth ddynol arbrofol a chlinigol, polisi a rheoli iechyd, iechyd y cyhoedd, iechyd galwedigaethol, iechyd amgylcheddol, dibyniaeth a chamddefnyddio cyffuriau, seiciatreg, meddygaeth fforensig a pheirianneg/offeryniaeth fiofeddygol. Mae sylw detholus ar gyfer nyrsio, deintyddiaeth, meddygaeth filfeddygol, seicoleg a meddygaeth amgen.

Mae Europe PMC yn storfa sy’n rhoi mynediad at erthyglau, llyfrau, patentau a chanllawiau clinigol byd-eang sy’n ymwneud â gwyddor bywyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

 

Mae’r Healthcare Administration Database yn darparu gwybodaeth berthnasol a dibynadwy ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys ysbytai, yswiriant, y gyfraith, ystadegau, rheoli busnes, rheoli personél, moeseg, economeg iechyd a gweinyddiaeth iechyd cyhoeddus. Mae’n cynnwys testun llawn o gyfnodolion ysgolheigaidd allweddol a miloedd o draethodau hir a theses.

Cynhyrchir HMIC gan wasanaethau llyfrgell Adran Iechyd Lloegr a Chronfa’r Brenin. Mae cronfa ddata HMIC yn cwmpasu cyhoeddiadau swyddogol, erthyglau a llenyddiaeth lwyd yn ymwneud â rheoli iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys rheoli’r GIG, ansawdd gwasanaethau iechyd, rheoli ystadau, rheoleiddio meddyginiaethau ac offer meddygol.

Mae LISTA yn mynegeio dros 560 o gyfnodolion, bron 50 o gyfnodolion â blaenoriaeth, a bron 125 o gyfnodolion detholus yn ogystal â llyfrau, adroddiadau ymchwil a thrafodion. Mae pynciau yn cynnwys llyfrgellyddiaeth, dosbarthiad, catalogio, bibliometreg, casglu gwybodaeth ar-lein, rheoli gwybodaeth a mwy.

Mae MIDIRS: Cronfa Ddata Gofal Mamolaeth a Babanod yn casglu gwybodaeth ac adnoddau yn ymwneud â bydwreigiaeth. P’un a yw’n ymddangos mewn cyfnodolyn academaidd, mewn adroddiad gan y llywodraeth, ar wefan neu yn rhywle arall, mae MIDIRS yn catalogio’r wybodaeth ac yn creu cofnod ar eu cronfa ddata. Ar hyn o bryd, mae gan MIDIRS dros 250,000 o’r cofnodion hyn, sy’n golygu mai hi yw’r gronfa ddata fwyaf o’i math yn y byd. Gall bydwragedd a myfyrwyr bydwreigiaeth fod yn sicr y gallant ddod o hyd i beth bynnag yr ysgrifennwyd amdano, yr ymchwiliwyd iddo, yr adroddwyd amdano neu a drafodwyd, ar y MIDIRS.

 

Ovid MEDLINE <1946 to Current>

Ovid MEDLINE <1996 to Current>

Ovid MEDLINE <ALL>

Ovid MEDLINE and Epub ahead of Print, In-Process, In-Data Review & Other non-indexed citations and daily <1946 - Current>

Ovid MEDLINE Epub ahead of Print, In-Process, In-Data Review & Other non-indexed citations 

 

Mae MEDLINE yn cynnwys dros 23 miliwn o gyfeirnodau o dros 5,600 o gyfnodolion ysgolheigaidd sydd wedi’u mynegeio ac a adolygwyd gan gymheiriaid, a hynny ym meysydd ymchwil biofeddygol a’r gwyddorau clinigol, gan gynnwys nyrsio, deintyddiaeth, fferylliaeth a’r gwyddorau perthynol i iechyd a chyn-glinigol.

Mae’r ystod o gronfeydd data Micromedex® yn rhoi mynediad at wybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar feddyginiaethau a thocsicoleg (oedolion a phediatrig).

Yma, gallwch fynd at y casgliad llawn o gronfeydd data Ovid (HMIC a MIDIRS). Os byddwch yn mynd at y cronfeydd data yn y modd hwn, gallwch ddewis pa adrannau o’r cronfeydd data yr hoffech bori drwyddynt, a gallwch bori drwyddynt gyda’ch gilydd. Fel arall, os hoffech bori drwy’r cronfeydd data fesul un, gallwch hefyd eu gweld wedi’u rhestru ar wahân.

Mae PEDro yn gronfa ddata sydd ar gael yn hawdd ac mae’n cynnwys dros 39,000 o dreialon ar hap, adolygiadau systematig a chanllawiau arfer clinigol mewn ffisiotherapi. Fe’i cynhyrchwyd gan y Centre for Evidence-Based Physiotherapy, Awstralia.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae platfform ProQuest Dialog yn caniatáu i chi groes-chwilio ein holl gronfeydd data ProQuest, sef AMED, APA PsycInfo, BNI, EMBase ac Medline.

Canllawiau fideo: Tiwtorialau i llwyfan Proquest

Gweminar: 

AMED ar y ProQuest

 Embase ar y ProQuest Dialog

 Medline ar y ProQuest (Dialog ac Academic)

 

Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru. PsycINFO

Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru PsycINFO

Mae cronfa ddata PsycINFO yn cwmpasu seiciatreg, rheoli, busnes, addysg, gwyddor gymdeithasol, niwrowyddoniaeth, y gyfraith, meddygaeth a gwaith cymdeithasol sy’n dyddio’n ôl i’r 1800au cynnar hyd heddiw. Caiff y gronfa ddata ei diweddaru’n wythnosol ac mae’n cynnwys erthyglau, llyfrau, penodau a thraethodau hir.

 

APA PsycInfo <1806 to Current>

APA PsycInfo <2002 to Current>

PsycINFO contains more than 4 million bibliographic records centered on psychology and the behavioral and social sciences, the interdisciplinary content in PsycINFO® makes it one of the most highly utilized databases by students, researchers, educators, and practitioners worldwide.

It contains citations and summaries of peer-reviewed journal articles, book chapters, books, dissertations, and technical reports, all in the field of psychology and the psychological aspects of related disciplines, such as medicine, psychiatry, nursing, sociology, education, pharmacology, physiology, linguistics, anthropology, business, and law. 

Journal coverage, spanning 1806 to present, includes international material selected from more than 2,500 periodicals from more than 49 countries written in 29 languages. Current chapter and book coverage includes worldwide English-language material published from 1987 to present. Over 80,000 records are added annually through weekly updates. More than 36 million references in over 870,000 journal articles, books, and book chapters; retrospective to 2001 and earlier, where available; more than 3.2 million references from 1920 to 2000

Mae PubMed yn rhoi mynediad am ddim at 26.8 miliwn o gofnodion, o gyfeirnodau, crynodebau a thestunau llawn ym meysydd meddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, systemau gofal iechyd a’r gwyddorau cyn-glinigol. Bydd defnyddio’r ddolen hon yn eich cysylltu ag erthyglau testun-llawn sydd ar gael ar e-Lyfrgell GIG Cymru.

Scopus 

 

Mae Scopus yn gronfa ddata gyfeiriol:

 

Beth yw cronfa ddata gyfeiriol?

Gellir defnyddio cronfa ddata gyfeiriol ar gyfer chwiliadau cyfeirio a ddyfynnir, gan alluogi defnyddwyr i ddod o hyd i, gwirio ac olrhain data cyfeiriol fesul blwyddyn, gan lywio ymlaen ac yn ôl drwy'r llenyddiaeth sy'n ymwneud â phwnc. Gellir defnyddio cronfa ddata gyfeiriol hefyd i wneud y canlynol: 

  • darparu mecanwaith ar gyfer gwahaniaethu rhwng awduron â'r un enw, neu enw awdur sydd wedi'i gyflwyno mewn gwahanol ffyrdd 
  • dadansoddi canlyniadau chwilio i ddangos nifer y dogfennau wedi'u dadansoddi yn ôl meini prawf amrywiol, gan gynnwys blwyddyn, awdur, ffynhonnell, ymlyniad, neu gategori pwnc 
  • chwilio o fewn canlyniadau trwy ychwanegu termau ychwanegol at y chwiliad cychwynnol 
  • nodi gweithiau sydd wedi'u dyfynnu llawer sy'n ymwneud â phwnc penodol 
  • dod o hyd i weithiau cysylltiedig sy'n rhannu cyfeiriadau neu awduron 
  • creu rhybuddion chwilio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn eich disgyblaeth neu sefydliad 
  • sefydlu rhybuddion mynegai cyfeiriol i roi gwybod i chi pan gyfeirir at ddogfen neu awdur mewn man arall 
  • gosod rhybuddion i roi gwybod i chi am ddogfennau newydd gan awdur 
  • cynhyrchu proffil sy'n cyflwyno dadansoddiad a chrynodeb o fynegai cyfeiriol o weithiau a gyhoeddwyd gan sefydliad neu awdur(on), gan gynnwys mynegai-h 
  • cymharu perfformiad cyfnodolion mewn maes pwnc penodol. 

 

Defnyddio Cronfeydd Data Cyfeiriol yn GIG Cymru

Mae cronfa ddata gyfeiriol yn rhoi’r cyfle i olrhain, monitro a mesur effaith yr allbwn hwn ar draws GIG Cymru.

Mae'n cefnogi ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol llyfrgell a gwybodaeth, adrannau ymchwil a datblygu a'r gweithlu ehangach i olrhain eu hallbwn ymchwil eu hunain ac ymchwil sefydliadol a darparu offer ar gyfer dadansoddi effaith.

Mae hyn yn cefnogi sefydliadau i nodi eu cryfderau ymchwil, lle gallai fod cyfleoedd ar gyfer ymchwil newydd a chydweithio posibl ar draws sefydliadau.  

 

 

Cymorth pellach ar SCOPUS

Canllawiau Cwmpas Cynnwys

Taflen ffeithiau (lawrlwythiad PDF)

Mynediad

Hyfforddiant

Social Policy and Practice

 

Mae Social Policy and Practice (SPP) yn gronfa ddata lyfryddol gynhwysfawr ar gyfer y rhai sy'n gweithio neu'n astudio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol - sy'n dwyn ynghyd wybodaeth o bum prif gasgliad y DU o adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Social Policy and Practice yn helpu gweithwyr, ymarferwyr, ymchwilwyr a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol i nodi erthyglau a chyhoeddiadau sy'n berthnasol i gyd-destun y DU. Fe'i defnyddir yn eang gan brifysgolion ac Ymddiriedolaethau'r GIG, yn ogystal ag elusennau a sefydliadau ymchwil arbenigol.

 

Mae Social Policy and Practice yn dwyn ynghyd ddata o’r 5 prif gasgliad canlynol o adnoddau polisi ac arfer cymdeithasol:

 

- AgeInfo - Canolfan Polisïau Heneiddio

- NSPCC - Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant

- Planex - IDOX Information Service

- Social Care Online - Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE)

- ChildData – Biwro Cenedlaethol y Plant (NCB)

 

Mae pob un o'r 5 yn cynnwys Crynodebau a Mynegeion wedi'u teilwra, yn seiliedig ar eu profiad helaeth ym mhob arbenigedd. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall defnyddwyr ddod o hyd i'r wybodaeth y maent yn chwilio amdani, a'u bod yn gallu asesu perthnasedd pob eitem i'w hymholiad yn hawdd.

 

Mae Social Policy and Practice yn cynnwys dros 400,000 o gofnodion llyfryddol a chrynodebau yn dyddio o 1981, gyda dros 24,000 o gofnodion newydd yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn. Mae ei Grynodebau a'i Fynegeion sydd wedi'u teilwra yn helpu i sicrhau bod defnyddwyr yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth y maent yn chwilio amdani, a'u bod yn gallu asesu perthnasedd pob eitem i'w hymholiad yn hawdd. Mae tua 30% o'r cynnwys yn lenyddiaeth adroddiadau anodd ei chanfod; mae gan y rhan fwyaf o gyfeiriadau gysylltiadau uniongyrchol â thestun llawn.

 

Gyda ffocws ar wybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae pynciau yn rhychwantu plant a phobl ifanc yn ogystal ag oedolion a phobl hŷn. Mae’r rhain yn cynnwys: iechyd a lles, chwarae, polisi cymdeithasol a theuluol, gofal cymdeithasol, trosedd a chyfiawnder ieuenctid, amddiffyn a diogelu plant, salwch meddwl, newid hinsawdd a pholisi, a mwy.

 

Cymorth pellach ar Social Policy and Practice:

 

https://www.wolterskluwer.com/en/solutions/ovid/social-policy-and-practice-1859

Mewngofnodwch o rwydwaith GIG Cymru

Mewngofnodwch trwy OpenAthens GIG Cymru

Mae'r Sociology Collection yn darparu mynediad at Sociological Abstracts ar y cyd â chronfeydd data eraill sy'n ymdrin â llenyddiaeth ryngwladol ym maes cymdeithaseg a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â meysydd cysylltiedig. At ei gilydd, mae’n darparu crynodebau, mynegeion a thestun llawn erthyglau cyfnodolion, llyfrau, penodau mewn llyfrau, traethodau hir, papurau gwaith, a mwy, gan gynnwys testun llawn cannoedd o gyfnodolion cymdeithaseg blaenllaw.

I gael rhagor o wybodaeth am y Sociology Collection, ewch i'r Dudalen Gynnwys (Content Page).

Gellir dod o hyd i’r Sociology Collection ar Blatfform ProQuest. Mae rhagor o wybodaeth am y Platfform ProQuest ar gael ar ProQuest Platform LibGuide.

Mae’r Transfusion Evidence Library yn gronfa ddata o adolygiadau systematig ac o dreialon sydd wedi’u rheoli ar hap (a gaiff eu diweddaru bob mis) sy’n berthnasol i feddygaeth trallwyso.

TravelHealthPro yw’r wefan sy’n cynnwys adnoddau iechyd teithio’r Rhwydwaith a Chanolfan Iechyd Teithio Cenedlaethol (NaTHNaC). Dyma’r adnodd argymelledig i GIG Cymru ei ddefnyddio wrth edrych am wybodaeth am iechyd teithio.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae TRIP Pro yn chwilotwr clinigol sydd wedi’i ddylunio i ganiatáu i ddefnyddwyr ddarganfod a defnyddio tystiolaeth ymchwil o ansawdd uchel mewn modd hawdd a chyflym, er mwyn cefnogi eu practis a/neu eu gofal. Mae ganddo gynnwys a swyddogaeth ychwanegol i Trip+, gan gynnwys 100,000+ o adolygiadau systematig ychwanegol, gwybodaeth am dros 175,000 o dreialon clinigol parhaus, ffotograffau a fideos meddygol ac offeryn i wneud ymchwiliad manylach.

    Gellir cael mynediad ar unwaith o rwydwaith GIG Cymru, ond gall defnyddwyr hefyd gofrestru i gael cyfrif personol i gael mynediad iddo gartref. Rhowch eich cyfeiriad e-bost i mewn, a phan roddir yr opsiwn i chi, dewiswch eich sefydliad GIG Cymru i gael mynediad llawn i Trip PRO.

    Gweminar

    Nod WISDOM yw rhoi mynediad i staff a myfyrwyr gofal iechyd yng Nghymru at wybodaeth ym meysydd Obstetreg, Gynaecoleg a Bydwreigiaeth.