Neidio i'r prif gynnwy

Hygyrchedd

Mae hygyrchedd ar y wefan hon wedi’i arwain gan safonau’r Llywodraeth a chaiff Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) eu derbyn yn eang fel y safon genedlaethol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Er ein bod yn anelu at sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bob defnyddiwr ac at gyflawni lefel gydymffurfio ‘AA’, rydym yn gweithio’n barhaus â rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â lefel gydymffurfio ‘A’ fel isafswm.

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau hygyrchedd ar y safle hwn, neu os bydd gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni.

Adobe – Read Out Loud

Mae gan fersiynau diweddarach o Adobe Reader (Fersiwn 7 ac uwch) swyddogaeth “darllen yn uchel”. Gellir darllen dogfennau PDF yn uchel mewn tri cham cyflym:

  • Agorwch ddogfen PDF a chliciwch ar “View”
  • Dewiswch “Read Out Loud”
  • Cychwynnwch “Read Out Loud”

Mae llwybrau byr a ddefnyddir yn aml yn cynnwys y canlynol:

  • Shift + Ctrl + Y: Cychwynnwch “Read Out Loud”
  • Shift + Ctrl + V: Darllen y dudalen gyfredol
  • Shift + Ctrl + B: Darllen hyd ddiwedd y ddogfen
  • Shift + Ctrl + C: Oedi/Ailddechrau darllen
  • Shift + Ctrl + E: Stopio

 

Addasu Maint y Testun

  • Internet Explorer: Ewch i “View” ar y ddewislen > Dewiswch faint testun / chwyddo
  • Firefox: Ewch i “View” ar y ddewislen > Dewiswch faint testun / chwyddo Fel arall, pwyswch y botwm “Ctrl” i lawr ar eich bysellfwrdd a phwyswch y botwm plws (+) i gynyddu maint y testun. I leihau maint y testun, pwyswch y botwm “Ctrl” i lawr a phwyswch y botwm minws (-).
  • Chrome: Dewiswch y 3 dot ar frig y porwr ar yr ochr dde > yn yr adran Zoom, pwyswch y botwm plws (+) neu finws (-) i gynyddu/lleihau maint y testun.
  • Edge: Dewiswch y 3 dot ar frig y porwr ar yr ochr dde > yn yr adran Zoom, pwyswch y botwm plws (+) neu finws (-) i gynyddu/lleihau maint y testun.
  • Noder y gallai’r gosodiadau uchod amrywio yn dibynnu ar fersiwn y porwr.

 

Lawrlwytho Ffeiliau

Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho’r darllenwyr/syllwyr canlynol i gael mynediad at fformatau dogfennau gwahanol ar y safle hwn. Gellir lawrlwytho’r rhain yn rhad ac am ddim o wefannau allanol perthnasol fel y nodir isod:

 

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn rhoi mynediad at ystod o e-Adnoddau i’w defnyddio gan GIG Cymru a sefydliadau cymwys. Mae gan bob cyflenwr ei ganllawiau hygyrchedd ei hun ac rydym yn annog defnyddwyr i edrych ar y polisïau hyn. Os oes gan ddefnyddwyr ymholiadau am hygyrchedd e-Adnoddau ar safleoedd cyflenwyr, cysylltwch â ni.