Neidio i'r prif gynnwy

e-Gyfnodolion

 

 

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn caniatáu mynediad at filoedd o e-Gyfnodolion, y gellir eu chwilio yn ôl teitl gan ddefnyddio'r ddyfais ddarganfod.  

Os ydych chi'n chwilio am e-Gyfnodolyn penodol, gallwch ddefnyddio'r blwch chwilio hwn i ddod o hyd i gyfnodolion trwy chwilio am enw llawn y cyfnodolyn (yn hytrach na thalfyriad o’r teitl).  Er enghraifft, dylid chwilio am ‘New England Journal of Medicine’, yn hytrach na ‘NEJM’. 

Gellir dewis opsiynau chwilio ychwanegol drwy ddefnyddio'r gwymplen ar y dde. Mae’r rhain yn gweithredu fel a ganlyn:  

  • E-Gyfnodolion GIG Cymru: Mae’n chwilio drwy gatalog GIG Cymru ar gyfer e-Gyfnodolion, yn ôl teitl.  

  • E-Lyfrau GIG Cymru: Mae’n chwilio drwy gatalog GIG Cymru ar gyfer e-Lyfrau, yn ôl teitl.  

  • E-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru: Mae’n chwilio drwy e-Lyfrgell GIG Cymru am erthyglau Iechyd, e-gyfnodolion iechyd Open Access a phenodau e-lyfrau. 

  • Casgliadau Gwasanaeth Llyfrgell GIG Cymru: Mae’n chwilio drwy adnoddau electronig a phrint lleol lyfrgelloedd ysbytai GIG Cymru, gan gynnwys llyfrau yn llyfrgelloedd iechyd Prifysgol Caerdydd. 

  • Holl Adnoddau Digidol a Phrint GIG Cymru: Mae’n chwilio drwy holl adnoddau print lleol ac electronig GIG Cymru; e-Lyfrgell GIG Cymru ar gyfer e-adnoddau Iechyd, gan gynnwys cronfeydd data, dyfeisiau pwynt gofal, e-lyfrau, e-gyfnodolion ac adnoddau iechyd Open Access; casgliadau llyfrau llyfrgelloedd iechyd Prifysgol Caerdydd. Chwilir am adnoddau electronig cenedlaethol gan gynnwys adnoddau iechyd Open Access ar lefel erthygl.