Neidio i'r prif gynnwy

Mae tymor e-Gyfnodolion newydd wedi cyrraedd

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn croesawu mynediad newydd i gannoedd o e-Gyfnodolion - 08/02/2024

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn falch o gyflwyno tymor e-Gyfnodolion newydd. Gallwch agor nifer o e-Gyfnodolion newydd ynghyd â rhai wedi’u hadnewyddu. Rydym wedi ehangu ein casgliadau i’ch galluogi chi i ddarllen llawer o'r erthyglau sydd eu hangen arnoch, pan fo’u hangen nhw arnoch chi.   

Cewch fynediad cyflym gan ddefnyddio catalog LibrarySearch drwy https://elh.nhs.wales/. Teipiwch deitl eich cyfnodolyn, neu eiriau allweddol i'ch helpu i ddarganfod erthyglau testun llawn.  Fel adnoddau e-Lyfrgell eraill, gallwch gael mynediad ar unwaith pan fyddwch wedi cysylltu â rhwydwaith GIG Cymru, neu drwy fewngofnodi i'ch cyfrif OpenAthens GIG Cymru. Os ydych chi'n newydd i’r broses mewngofnodi i e-adnoddau, mae'n hawdd creu cyfrif. Darllenwch sut i ddechrau arni gyda'ch cyfrif OpenAthens GIG Cymru

 

Mae LibrarySearch yn offeryn catalog llyfrgell a rennir, y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i erthyglau, e-Gyfnodolion, e-Lyfrau ac adnoddau ffisegol hefyd. Defnyddir LibrarySearch ar y cyd ar draws GIG Cymru ar gyfer Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth a chaiff ei reoli gan Brifysgol Caerdydd. I gael y gorau o ddefnyddio'r offeryn hwn siaradwch â Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru.  Mae tîm e-Lyfrgell GIG Cymru hefyd yma i'ch cefnogi. Anfonwch e-bost at elibrary@wales.nhs.uk i gysylltu â’r tîm. 

Rhannwch eich syniadau ar gyfer tyfu ein casgliadau gyda theitlau, e-Lyfrau, ac unrhyw adnoddau digidol newydd yr hoffech eu gweld yn e-Lyfrgell GIG Cymru drwy anfon e-bost at elibrary@wales.nhs.uk