I gael mynediad i’r e-adnoddau cenedlaethol y mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn tanysgrifio iddynt, mae angen i chi fewngofnodi
Cyfeiriwch at y Broses Gofrestru os nad ydych yn siŵr sut i gael eich enw defnyddiwr a chyfrinair, neu gallwch wylio'r fideo byr hwn:
Er mwyn hwyluso’r broses o chwilio am dystiolaeth, argymhellir eich bod yn mewngofnodi cyn i chi ddechrau defnyddio’r e-adnoddau. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, dylai’ch porwr gydnabod y sesiwn ar gyfer yr holl danysgrifiadau cenedlaethol a lleol y gall fod gennych mynediad iddynt hefyd. Bydd hyn yn gwneud eich profiad yn un mor ddi-dor â phosibl.
Os byddwch yn cael anawsterau, cysylltwch â'ch gweinyddwr OpenAthens [link] neu dîm yr e-Lyfrgell elibrary@wales.nhs.uk am gymorth.
Os na fydd rhywbeth yn gweithio yn ôl y disgwyl, efallai bod problem dechnegol y bydd angen ymchwilio iddi, felly cysylltwch â thîm yr e-Lyfrgell elibrary@wales.nhs.uk neu cysylltwch â'ch gweinyddwr OpenAthens lleol [link]