Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru

Oeddech chi’n gwybod bod staff sy’n cael eu cyflogi, yn cael eu lletya gan adrannau iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru neu’n gweithio’n uniongyrchol gyda nhw wedi’u hawdurdodi i ddefnyddio’r e-Lyfrgell? Mae hyn hefyd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Swyddfeydd Prif Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru
  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Staff gwasanaethau llyfrgell, gwybodaeth a dadansoddol Llywodraeth Cymru

Gallwch chi a'ch timau gael mynediad at yr un e-adnoddau cenedlaethol a ddarperir gan e-Lyfrgell GIG Cymru.

Gallwch anfon e-bost at elibrary@wales.nhs.uk os nad ydych yn siŵr a ydych ar y rhestr o ddefnyddwyr awdurdodedig .