Neidio i'r prif gynnwy

Llwybr Arwyddo

18/02/22
Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Mae adnoddau'r e-lyfrgell ar gael i bron i 10,000 o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol annibynnol a rheolwyr gofal cymdeithasol gan gynnwys rheolwyr cartrefi gofal, gofal preswyl i blant, a gofal cartref ledled Cymru.

Gallwch anfon e-bost at elibrary@wales.nhs.uk os nad ydych yn siŵr a ydych ar y rhestr o ddefnyddwyr awdurdodedig .

18/02/22
Gweithwyr GIG Cymru a Deiliaid Contractau Clinigol

Gweithwyr GIG Cymru a Deiliaid Contractau Clinigol

Angen help i ddod o hyd i e-gyfnodolion, erthyglau, neu hyd yn oed chwilio am lenyddiaeth? Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru yma i helpu eu byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd lleol gyda gwasanaethau a chymorth llyfrgell lleol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer aelodaeth o'r Llyfrgell i gael mynediad at y gwasanaethau rhad ac am ddim hynny!

18/02/22
Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

Oeddech chi’n gwybod bod staff sy’n cael eu cyflogi, yn cael eu lletya gan adrannau iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru neu’n gweithio’n uniongyrchol gyda nhw wedi’u hawdurdodi i ddefnyddio’r e-Lyfrgell? Mae hyn hefyd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Swyddfeydd Prif Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru
  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Staff gwasanaethau llyfrgell, gwybodaeth a dadansoddol Llywodraeth Cymru

Gallwch chi a'ch timau gael mynediad at yr un e-adnoddau cenedlaethol a ddarperir gan e-Lyfrgell GIG Cymru.