Neidio i'r prif gynnwy

Y broses gofrestru

Sut alla i gael cyfrif OpenAthens GIG Cymru?

Bydd angen i chi hunan-gofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens GIG Cymru. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i sicrhau y bydd eich ffurflen yn cael ei phrosesu cyn gynted â phosibl er mwyn eich galluogi i ddefnyddio'r e-adnoddau sydd eu hangen arnoch! 

Cwblhewch yr holl wybodaeth orfodol. Bydd angen i chi ddewis “Social Workers and Social Care Workers.” (Mae angen i chi ddewis un o opsiynau cyfrif Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i chi:“Welsh Government Health and Social Care Funded/ Sponsored Bodies.”

 

Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweinyddwr OpenAthens yn derbyn eich ffurflen. Gweler y llun isod a gwyliwch y fideo hwn os oes angen rhagor o gymorth arnoch.   

Ar ôl i chi lenwi'ch ffurflen, bydd eich cyfrif yn cael ei greu, a bydd eich gweinyddwr OpenAthens lleol yn cael ei hysbysu am hyn. Bydd yn cymeradwyo eich cyfrif ac yn trefnu cyfrif catalog y llyfrgell hefyd.  Gellir cael mynediad i gatalog ein llyfrgell, sef LibrarySearch GIG Cymru, o'n hafan. Byddwch yn gallu defnyddio'r un enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer y ddwy system