Neidio i'r prif gynnwy

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn chwilio am Wirfoddolwyr!

Ydych chi'n gweithio ym maes gofal acíwt (gan gynnwys cleifion mewnol cymunedol) yn unrhyw un o'r rolau canlynol?

  1. Meddygon Sylfaen Blwyddyn 1 a 2 sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd  
  1. Meddygon dan hyfforddiant arbenigol sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd  
  1. Arbenigwyr Cyswllt sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd  
  1. Ymgynghorwyr gan gynnwys hyfforddwyr sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd  
  1. Nyrsys sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd  
  1. Ymarferwyr nyrsio sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd 

 

Rydym ni eich angen chi!

 

Beth sy'n digwydd?

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr o'r rolau uchod a all gymryd rhan mewn gwerthusiad o ‘BMJ Best Practice Comorbidities’

Pryd mae'n digwydd?

Rhwng 25 Ebrill a 17 Mehefin 2022

Pam ein bod ni’n gwneud hyn?

Bydd y gwerthusiad yn helpu i gefnogi Bwrdd Gwasanaethau e-Lyfrgell GIG Cymru yn ei broses o wneud penderfyniadau gan ddewis i naill ai:

  • Uwchraddio tanysgrifiad cyfredol ‘BMJ Best Practice’ i gynnwys ‘Comorbidities Manager’ o fis Ionawr 2023
  • Cynnal tanysgrifiad cyfredol ‘BMJ Best Practice’ hyd nes y daw hyd oes y contract presennol i ben ym mis Rhagfyr 2023

Sut ydw i'n cymryd rhan?

  1. Cymryd rhan yn y gwerthusiad:
    1. Os hoffech gymryd rhan yn y gwerthusiad hwn, llenwch Ffurflen Cofrestru Cyfranogwyr a Datganiad o Fuddiant GIG Cymru a bydd aelod o dîm yr e-Lyfrgell yn anfon gwybodaeth am sut i drefnu eich mynediad i ‘BMJ Best Practice Comorbidities’.  

 Noder: 

Dylech ddarllen polisi preifatrwydd ar y cyd BMJ a Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) (ynghlwm) yn ofalus i sicrhau eich bod yn hapus i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Mae derbyn e-byst i hyrwyddo'r defnydd o'r offeryn cydafiacheddau (marchnata uniongyrchol) yn rhan ganolog o'r fenter. Os byddwch yn dewis bwrw ymlaen, byddwch yn ymwybodol y bydd gwneud hynny'n gyfystyr â chydsyniad i farchnata uniongyrchol sy'n ymwneud ag ‘BMJ Best Practice’ gyda ‘Comorbidities’ drwy gydol y gwerthusiad (tan 17 Mehefin 2022). 

 

  1. Rhannu gydag eraill a allai fod â diddordeb
    1. Mae croeso i chi rannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr a allai fod eisiau cymryd rhan

 

 

Beth fydd yn digwydd?

  • Byddwch yn cael mynediad i ‘BMJ Best Practice’ rhwng 25 Ebrill a 17 Mehefin 2022. Os oes gennych gyfrif ‘BMJ Best Practice’ eisoes, bydd y ‘Comorbidities Manager’ yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif.  

 

  • Cyn i'r gwerthusiad ddechrau, bydd sesiwn hyfforddi fer gyda Chyfarwyddwr Clinigol BMJ (25 Ebrill 2022, 12:00 – 13:00) y mae croeso i chi ei mynychu i roi cynnig ar ‘Comorbidities Manager’ a gofyn unrhyw gwestiynau (gwahoddiad i ddilyn). Bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio a'i rhannu gyda'r holl gyfranogwyr os na allwch fod yn bresennol ar y diwrnod.  

 

  • Unwaith y bydd y gwerthusiad yn cael ei lansio, bydd gennych 8 wythnos i ddefnyddio a phrofi ‘Comorbidities Manager’ yn ymarferol neu trwy ddefnyddio senario clinigol a ddarperir i werthuso'r offeryn. 
  • Yna, byddem yn gofyn i chi gwblhau arolwg cyflym (cyn 17 Mehefin), a fydd yn cymryd llai na 5 munud i chi ei gwblhau. 

 

Mewn gwirionedd, nid wyf erioed wedi clywed am ‘BMJ Best Practice’ o’r blaen

Peidiwch â phoeni – dyma'r amser perffaith i gael golwg:

 

Gallwch ddod o hyd i BMJ Best Practice yn ein hadran Crynodebau Tystiolaeth ar wefan e-Lyfrgell. Gallwch eisoes wneud y canlynol:

 

Felly... pam rydym yn ystyried uwchraddio?

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i dimau clinigol fabwysiadu dull integredig o ofalu am gleifion. Mae hyn yn golygu adnabod cydafiacheddau claf – a sut maen nhw'n rhyngweithio â'i gilydd. Mae hynny’n ddigon hawdd ei ddweud, ond sut mae rhoi'r egwyddor hon ar waith?    

Mae ‘Comorbidities BMJ Best Practice’ yn offeryn cymorth penderfyniadau clinigol sy'n helpu gweithwyr proffesiynol i drin y claf cyfan. Bydd ‘Comorbidities Manager’ yn eich annog i ystyried cydafiacheddau claf wrth edrych ar wybodaeth am driniaeth ar bwnc acíwt. Pan ddewisir cydafiacheddau, cynhyrchir cynllun rheoli claf wedi'i deilwra ar unwaith. 

Dyma fideo byr gyda rhagor o wybodaeth am ‘Comorbidities BMJ Best Practice’.