Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio gwefan yr e-Lyfrgell

Mae gwefan e-Lyfrgell GIG Cymru yn debyg i ofod rhithwir, sy’n eich galluogi i ddarganfod yr e-adnoddau y gallwch gael mynediad iddynt. 

Beth ydw i'n edrych arno?

 

Dyma declyn chwilio LibrarySearch GIG Cymru. Mae'n far chwilio sy’n eich galluogi i chwilio am erthyglau, e-Gyfnodolion, e-Lyfrau a chronfeydd data. Fe’i rheolir gan Brifysgol Caerdydd, ac fe’i rhennir ar draws GIG Cymru. Felly mae’n bosibl y byddwch yn dod o hyd i adnoddau eraill nad ydynt yn berthnasol i chi. I gael mynediad i adnoddau e-Lyfrgell GIG Cymru, defnyddiwch y gwymplen ddiofyn ar yr hafan. 

 

Byddwch yn gweld meysydd tebyg ar gyfer e-Gyfnodolion ac e-Lyfrau. 

A oes angen manylion Mewngofnodi ar wahân arnaf ar gyfer LibrarySearch?

Dylech allu mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair GIG Cymru (NADEX).  Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost GIG Cymru, defnyddiwch yr un manylion mewngofnodi a chyfrinair ag yr ydych chi’n eu defnyddio i fewngofnodi i OpenAthens. 

Dylech allu mewngofnodi gan ddefnyddio yr un manylion mewngofnodi a chyfrinair ag yr ydych chi’n eu defnyddio i fewngofnodi i OpenAthens. 

Os na fyddwch chi’n llwyddo i fewngofnodi i LibrarySearch, cysylltwch â'ch Gweinyddwr OpenAthens [link] yn gyntaf neu gallwch anfon e-bost at elibrary@wales.nhs.uk a

gall tîm yr e-Lyfrgell eich helpu i ymchwilio i’r broblem.