Neidio i'r prif gynnwy

Ddefnyddwyr awdurdodedig

 

Prif Ddefnyddwyr

Mae'r grwpiau defnyddwyr canlynol yn cael gwasanaeth uniongyrchol gan e-Lyfrgell GIG Cymru h.y. e-adnoddau a gaffaelir yn benodol yn ôl eu hanghenion ac maent yn gymwys i gael mynediad atynt yn y gwaith ac o'u cartrefi:

  1. Pob aelod o staff a gyflogir gan sefydliadau GIG Cymru gan gynnwys:
    • staff gweinyddol a chlerigol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, meddygon, gwyddonwyr iechyd, rheolwyr, bydwragedd, nyrsys, staff adrannau brys, a staff cymorth. Mae hyn yn cynnwys holl sefydliadau GIG Cymru (Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, Awdurdodau Iechyd Arbennig a sefydliadau a letyir ganddynt) a holl gyrff a gwasanaethau statudol GIG Cymru, megis Cynghorau Iechyd Cymunedol a staff gofal iechyd Y Gwasanaeth Carchardai.
  1. Yr holl staff a sefydliadau yng Nghymru sydd wedi'u contractio'n unigol i GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau yng Nghymru sy’n gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion GIG Cymru gan gynnwys:
    • Sefydliadau annibynnol, elusennol a sector gwirfoddol, sefydliadau awdurdodau lleol sy'n darparu gofal a gomisiynwyd gan GIG Cymru neu sy'n gweithio mewn partneriaeth â GIG Cymru i ddarparu gofal i gleifion.
    • Ymarferwyr meddygol cofrestredig sy'n gweithio mewn practisiau meddygol a deintyddol cyffredinol, fferyllwyr cymunedol, technegwyr fferyllol a staff dosbarthu ac optometryddion, ymarferwyr meddygol offthalmig, ac optegwyr cyflenwi, (mae gan yr olaf gontractau GIG Cymru ond bydd angen rhoi ystyriaeth arbennig i ba staff penodol fydd yn cael mynediad, e.e. mae’n bosibl y bydd optometryddion, ymarferwyr meddygol offthalmig, ac optegwyr cyflenwi yn gwneud mwy o waith preifat na gwaith GIG Cymru)
    • Gweithwyr proffesiynol cofrestredig a gydnabyddir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chan y Cyngor Proffesiynau Iechyd, gan gynnwys nyrsys sector annibynnol sy'n darparu gofal canser
    • Gweithwyr hosbis, gweithwyr cymdeithasol, elusennau sy'n gysylltiedig ag iechyd a gofal a mentrau cymdeithasol
    • Gweithwyr Cymdeithasol Cofrestredig a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a gyflogir gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Gweithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Gofal Cymdeithasol sydd wedi’u contractio’n unigol neu’n gweithio i sefydliad sydd wedi’i gontractio gan GIG Cymru i ddarparu gofal GIG Cymru
    • Rheolwyr Gofal Cymdeithasol Cofrestredig sy’n cael eu cyflogi’n breifat yn rolau Rheolwyr Cartrefi Gofal, Gofal Cartref a Gofal Preswyl i Blant
    • Gweithwyr Cymdeithasol Cofrestredig sy’n drydydd sector, yn annibynnol neu’n hunangyflogedig yng Nghymru
  • Gweithwyr hosbis, elusennau cymorth cysylltiedig ag iechyd a gofal a sefydliadau menter gymdeithasol

 

  1. Yr holl staff a gyflogir, a letyir gan, neu sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Adran Addysg a Gwasanaeth Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: 
    • Swyddfeydd Prif Weithwyr Proffesiynol Iechyd Llywodraeth Cymru
    • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru
    • Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth

Defnyddwyr Eilaidd

Caniateir i ddefnyddwyr lefel eilaidd gael mynediad i'r gwasanaeth, er na fydd adnoddau'n cael eu caffael yn benodol at eu defnydd unigol. Yn gyffredinol, defnyddwyr eilaidd fydd defnyddwyr o sectorau a sefydliadau eraill nad ydynt yn cael eu cyflogi gan GIG Cymru ond sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chydweithwyr y GIG fel rhan o'r tîm gofal iechyd ac sy'n gymwys i gael mynediad yn y gwaith ac o'r cartref lle bo hynny'n berthnasol:

  1. Myfyrwyr iechyd a gofal, o ddyddiad cychwyn lleoliad gyda darparwr gwasanaeth GIG Cymru, trwy gydol eu lleoliad.
  2. Gweithwyr a chontractwyr GIG Cymru sydd wedi ymddeol a all ddarparu tystiolaeth eu bod wedi gweithio i GIG Cymru trwy lythyr cadarnhau gan adran gweithlu a datblygu sefydliadol y Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth ar adeg yr ymddeoliad. 
  • Bydd y defnyddwyr hyn yn cael cyfrif mynediad o bell o 50 cyfrif penodol am 3 mis ar y tro i gefnogi eu dysgu parhaus, eu gwaith gwirfoddol i GIG Cymru neu sefydliadau gwirfoddol ond ni ddylid eu defnyddio ar gyfer cyflogaeth gontractiol a ariennir yn breifat neu er mwyn budd personol.  Disgwylir i'r defnyddwyr hyn gadw at yr un atebolrwydd personol a phroffesiynoldeb a ddisgwylir gan y rhai sy'n dal i gael eu cyflogi gan GIG Cymru.
  • I wneud cais am gyfrif ar gyfer gweithwyr GIG Cymru sydd wedi ymddeol, cliciwch yma.
  1. Gweithwyr unigol, gweithwyr a chontractwyr sefydliadau sy'n derbyn cyllid neu nawdd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau neu wybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau gweithredol, rheoleiddio, cynghori a chyflenwi i GIG Cymru.
  • Er enghraifft, Gofal Cymdeithasol Cymru, Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd, Pwyllgor Diogelu Iechyd, grwpiau a byrddau cynghori cysylltiedig ag iechyd, ac awdurdodau lleol

 

  1. Gwirfoddolwyr GIG Cymru megis y rhai sy'n aelodau o Fyrddau Cyngor Iechyd Cymunedol neu grwpiau cleifion y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth yr ystyrir y byddent yn elwa o'r gwasanaeth gan weinyddwr awdurdodedig OpenAthens cenedlaethol neu leol. 

Defnyddwyr Trydyddol 

Gall defnyddwyr trydyddol fod yn aelodau o'r cyhoedd sy'n cael mynediad at e-adnoddau sydd ar gael ar y rhyngrwyd heb fynediad dan reolaeth sydd i bob pwrpas yn gyhoeddus ac sydd ar gael felly i holl ddinasyddion Cymru. Bydd e-Lyfrgell GIG Cymru hefyd yn sicrhau bod unrhyw e-adnoddau sydd ar gael am ddim trwy ei wefan gan gynnwys cyfnodolion OpenAccess, cronfeydd data llyfryddol, adnoddau ar sail tystiolaeth a chanllawiau clinigol

(Diweddarwyd ddiwethaf ym mis Ionawr 2023)