Diweddarwyd Diwethaf: 01/05/2026
Datganiad ar iaith niweidiol yng nghatalog y llyfrgell
Nod Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru ac e-Lyfrgell GIG Cymru yw sefydlu diwylliant cynhwysol a chynorthwyo GIG Cymru yn llawn yn ei ymrwymiad i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ar draws pob agwedd o’i waith. Mae ein casgliadau llyfrgell yn amrywiol ac rydym yn ymdrechu i ddisgrifio ein hadnoddau mewn modd sy'n gywir ac yn barchus i'r holl gymunedau sy'n creu, eu defnyddio ac sy'n cael eu cynrychioli yn y casgliadau rydym ni'n eu rheoli.
Rydym yn cydnabod bod cynnwys a disgrifiadau presennol ein casgliadau yn adlewyrchu rhagfarnau personol a chymdeithasol eu crewyr a'r amseroedd y cawsant eu cynhyrchu. O ganlyniad, gallant gynnwys geiriad, delweddau, credoau neu ystrydebau hen ffasiwn a / neu sarhaus, gan gynnwys iaith sy'n hiliol, yn rhywiaethol, yn ableddol, yn drefedigaethol, yn homoffobig, yn drawsffobig, yn senoffobig, neu fel arall yn fychanol ac yn niweidiol. Rydym yn deall y gallai iaith fod yn niweidiol neu'n hen ffasiwn yn Gymraeg neu Saesneg o fewn y catalog, ac rydym yn cydnabod bod angen ystyried sensitifrwydd yn ddwyieithog.
Yn yr un modd, rydyn ni’n cydnabod bod gormes a rhagfarn yn aml wedi’u gwreiddio, yn cael eu cynnal ac yn cael eu bytholi yn y safonau catalogio rhyngwladol a ddefnyddiwn er mwyn disgrifio a chategoreiddio deunyddiau.
Nid yw Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru ac e-Lyfrgell GIG Cymru yn cymeradwyo'r rhagfarnau a fynegir yn y deunyddiau hyn ac a adlewyrchir yn y systemau sefydledig sy'n eu disgrifio. Er bod staff Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru ac e-lyfrgell GIG Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio iaith gynhwysol a pharchus wrth ddisgrifio adnoddau, efallai y byddwch yn dod ar draws iaith ansensitif, hen ffasiwn neu amhriodol yn ein catalog am y rhesymau canlynol:
- Wrth ddisgrifio adnoddau, rydym yn trawsgrifio gwybodaeth allweddol, megis teitlau cyhoeddiadau ac enwau sefydliadau neu ddigwyddiadau, yn uniongyrchol o ddeunyddiau llyfrgell i sicrhau cywirdeb ac fel bod modd dod o hyd i eitemau. Gall y wybodaeth hon gynnwys iaith sarhaus neu dermau sydd wedi dyddio.
- Rydym wedi cadw termau niweidiol i gadw cywirdeb hanesyddol a chynrychioli'r deunydd yn llawn yn ei fformat gwreiddiol; nid ydym yn sensro iaith hanesyddol sy'n dogfennu cyd-destun cymdeithasol, materion ac agweddau'r oes lle cynhyrchwyd adnodd neu farn ei grewyr.
- Nid ydym yn newid defnydd crewyr o dermau hunan-adnabod. Gall hyn gynnwys iaith sydd bellach wedi dyddio ac a ystyriwyd yn dderbyniol ac a ddefnyddiwyd gan gymuned y crewyr i ddisgrifio eu hunain ar y pryd, neu dermau difrïol a ddefnyddiwyd yn erbyn eu cymuned y mae'r crëwr wedi'u hadfer.
- Mae llawer o'n hadnoddau yn cael eu cynnal gan sefydliadau allanol a gwerthwyr masnachol, sy'n creu ac yn darparu cofnodion disgrifiadol cysylltiedig nad ydym yn gallu eu diwygio.
- Efallai na fydd rhai cofnodion hŷn wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r ddealltwriaeth gyfredol a'r newidiadau mewn terminoleg. Gall cofnodion hefyd gynnwys iaith sy'n cael ei herio a/neu sy'n amrywio o fewn cymunedau a rhyngddynt.
- Rydym yn defnyddio rhestrau geirfa safonedig fel Penawdau Pwnc Meddygol (MeSH)] a [Phenawdau Pwnc Llyfrgell y Gyngres (LCSH) er mwyn gwella’r broses o chwilio a dod o hyd i adnoddau. Nid oes gan staff y llyfrgell reolaeth uniongyrchol dros yr iaith a ddefnyddir yn y geirfaoedd hyn, sy'n aml yn methu â chyfleu profiadau cymunedau ymylol yn gywir, yn aml yn rhagfarnllyd ac yn parhau i ddefnyddio iaith sydd wedi dyddio a/neu niweidiol oherwydd bod yn rhaid i geisiadau newid terminoleg fynd trwy broses adolygu a chymeradwyo helaeth i'w diweddaru.
Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i ddisgrifio ein casgliadau a'u crewyr yn gywir ac yn sensitif, gyda gofal arbennig am ein deunyddiau niferus sy'n deillio o, yn cael eu creu, neu sy'n darlunio grwpiau ymylol o bobl. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein holl ddefnyddwyr yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi, ac rydym yn gweithio'n weithredol tuag at liniaru niwed a achosir gan iaith sarhaus yn ein catalog. Rydym yn cadw at [Cod Moeseg y Catalogwyr] ac yn gweithredu camau adfer yn ein harferion catalogio, sy'n cynnwys proses barhaus o:
- Nodi, unioni a phennu dewisiadau amgen addas ar gyfer iaith niweidiol mewn penawdau pwnc o fewn cofnodion cyfredol lle mae gennym ni’r gallu i wneud newidiadau.
- Sicrhau defnydd o iaith sy’n gynhwysol, yn gywir ac yn gyfredol wrth symud ymlaen i ddisgrifio adnoddau sydd newydd eu caffael a gwella'r ffyrdd y mae cymunedau ymylol yn cael eu cynrychioli yn ein casgliadau.
- Cyfeirio’n rheolaidd at adnoddau cyfredol a pherthnasol ynghylch yr iaith niweidiol a detholedig a ddefnyddir i gynrychioli cymunedau ymylol: i lywio ein dewis o eirfa a chynnal ymwybyddiaeth o unrhyw newidiadau yn y defnydd o iaith gyfoes, er mwyn inni allu addasu ein harferion yn unol â hynny.
- Codi ymwybyddiaeth defnyddwyr o bresenoldeb posibl iaith niweidiol yng nghatalog ein llyfrgell, a’r rhesymau dros hynny, gan roi sylw i derminoleg sarhaus pan fydd defnyddwyr wedi tynnu ein sylw ati ac annog adborth fel y gallwn ni ddysgu ohono a gwella ein harferion (gweler isod i gael rhagor o wybodaeth).
- Cefnogi ymdrechion yn y proffesiwn i herio a disodli termau rhagfarnllyd a niweidiol a geir ym Mhenawdau Pwnc Llyfrgell y Gyngres a Phenawdau Pwnc Meddygol (MeSH).
- Datblygu a chefnogi strategaethau sefydliadol gwrth-hiliol a chynhwysol drwy gymryd rhan mewn trafodaethau a chyfrannu at fentrau mwy ym mhob rhan o GIG Cymru a’r gymuned ehangach o lyfrgelloedd yng Nghymru.
Wrth i ddefnydd a dealltwriaeth o iaith esblygu gyda threigl amser, rydym ni’n cydnabod mai proses fyfyriol a pharhaus fydd cynnal a diweddaru ein miloedd a miloedd o gofnodion i sicrhau eu bod yn disgrifio’r adnoddau mewn modd cywir a pharchus. Rydym ni’n deall efallai na fyddwn ni bob amser yn gwneud y penderfyniadau cywir, a byddwn ni’n croesawu adborth i'n helpu i fynd i'r afael â'r mater cymhleth hwn a gwella ein dull o ymdrin ag ef.Mae Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru ac e-Lyfrgell GIG Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Thîm Catalogio Gwasanaeth Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd. Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau yn ymwneud â'r dulliau hyn, cysylltwch â ni ar naill ai Cataloguing@Cardiff.ac.uk neu elibrary@wales.nhs.uk.
- Byddwn ni’n adolygu ac yn mynd i'r afael ag unrhyw iaith yr adroddir ei bod yn niweidiol yn unol â'r datganiad hwn a'r polisi catalogio; gan gydbwyso ein hymrwymiad i ddisgrifio adnoddau mewn modd cywir a sensitif sy’n cadw’r cyd-destun gwreiddiol a’r angen i sicrhau y gellir dod o hyd i adnoddau. Gallai camau gweithredu posibl gynnwys y canlynol ond nid dim ond y rhain:Disodli termau niweidiol yn y cofnod gydag iaith sy’n fwy priodol.
- Cadw'r iaith dan sylw a darparu gwybodaeth ddisgrifiadol ychwanegol i roi cyd-destun i’r deunyddiau a chydnabyddiaeth o'r derminoleg niweidiol a ddefnyddir.
- Peidio â gwneud newidiadau i'r cofnod (er enghraifft, mewn achosion lle mae'r cofnod yn eiddo i sefydliad allanol ac nid oes modd inni ei ddiwygio).
Byddwn ni’n diweddaru'r datganiad hwn yn ôl yr angen i adlewyrchu ein dealltwriaeth esblygol o'r mater a'r addasiadau i'n prosesau. Mae'r datganiad hwn yn cydnabod ymdrechion nifer o lyfrgelloedd ac archifau eraill sy'n mynd i'r afael â rhagfarn ac iaith niweidiol yn eu cofnodion disgrifiadol ac yn tynnu ar ddatganiadau tebyg a gyhoeddwyd ganddynt.