Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiadau Mynediad Agored

Cyhoeddiadau Mynediad Agored

Gall unrhyw un sydd â mynediad i'r rhyngrwyd gael mynediad at ddeunydd Mynediad Agored sy’n cael ei gyhoeddi yn rhad ac am ddim.

Adnoddau defnyddiol:

Cyfnodolion

Directory of Open Access Journals (DOAJ): gallwch chwilio am gyfnodolion ysgolheigaidd lle mae'r holl gynnwys yn rhai Mynediad Agored. https://doaj.org/

Llyfrau

Directory of Open Access Books (DOAB): gallwch chwilio am lyfrau ysgolheigaidd Mynediad Agored sy'n cwmpasu'r gwyddorau hyd at y dyniaethau. https://www.doabooks.org/

OAPEN: gallwch chwilio am lyfrau Mynediad Agored sy'n canolbwyntio ar y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau https://www.oapen.org/

Traethodau hir

EThOS: gallwch ddefnyddio gronfa ddata genedlaethol y Llyfrgell Brydeinig i ddod o hyd i draethodau doethurol gan brifysgolion y DU. https://ethos.bl.uk/Home.do;jsessionid=BC141C1551023892398D404ECE27A033

Cyffredinol

CORE: mae'n casglu ymchwil Mynediad Agored o storfeydd a chyfnodolion ledled y byd at ei gilydd. https://core.ac.uk/

Open DOAR (JISC): gallwch chwilio yn y cyfeiriadur hwn o storfeydd ysgolheigaidd Mynediad Agored i ddod o hyd i gyhoeddiadau ac ymchwil gan brifysgolion a chyrff cyhoeddus gan gynnwys y GIG. https://www.jisc.ac.uk/opendoar

Hawlfraint

Mae deunydd Mynediad Agored yn rhad ac am ddim i'w ddarllen ond mae’n bosibl na fydd ar gael i'w gopïo.  Gwiriwch y datganiadau hawlfraint ar ddeunydd Mynediad Agored i weld yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Mae llawer o gyfnodolion Mynediad Agored yn defnyddio trwyddedau Creative Commons i roi caniatâd i ddefnyddio eu herthyglau o dan gyfraith hawlfraint.  Mae rhagor o wybodaeth am hyn yma: https://creativecommons.org/about/cclicenses/

Cyfnodolion rheibus (Predatory)

Mae’r cyfnodolion hyn ‘… yn derbyn erthyglau i’w cyhoeddi - ynghyd â ffioedd gan awduron - heb gynnal gwiriadau ansawdd a addawyd ar gyfer materion fel llên-ladrad neu gymeradwyaeth foesol.’  Grudneiwicz (2019) Predatory journals: no definition, no defence.  Nature 576, 210-212 https://www.nature.com/articles/d41586-019-03759-y

Os ydych chi am gyhoeddi mewn cyfnodolyn Mynediad Agored nad ydych chi'n gyfarwydd ag ef, mae'r wefan hon yn darparu rhestr wirio i helpu i farnu manylion cyhoeddiad. Think! Check! Submit!  https://thinkchecksubmit.org/