Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn dathlu ar ôl noson lwyddiannus yn Seremoni Wobrwyo Staff blynyddol IGDC yng Nghaerdydd.
Cafodd tîm yr e-Lyfrgell a’i staff saith enwebiad a’u rhoi ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr mewn meysydd sy’n amlygu gwaith hyrwyddo technoleg ddigidol, ymgysylltu, cydweithio, ac ysbrydoli eraill.
Llongyfarchiadau arbennig i Bex Meyrick, Arbenigwr Ymgysylltu a Dysgu’r e-Lyfrgell, a enillodd y wobr “Byw’r Gwerthoedd” yn y seremoni. Mae Bex yn aelod o rwydwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant IGDC ac fe chwaraeodd hi ran allweddol yn natblygiad Cymuned Niwroamrywiaeth IGDC Viva sydd wedi ehangu i gynnwys GIG Cymru gyfan ac sydd â 221 o aelodau ar hyn o bryd. Mae Bex yn rhoi blaenoriaeth i gynhwysiant – o gyflwyno gweminarau ar ddefnyddio offer hygyrchedd wrth gael mynediad at wybodaeth a chefnogi hyfforddiant chwilio am lenyddiaeth ar thema Mis Hanes LHDTC+, i sicrhau bod cyflenwyr yn arddangos yr adnoddau cenedlaethol ar ystod o bynciau gan gynnwys niwroamrywiaeth ym maes gofal iechyd a llesiant cymdeithasol.
“Rydyn ni wrth ein bodd bod IGDC wedi cydnabod gwaith caled Bex,” meddai Rachel Sully, Rheolwr Gwasanaethau e-Lyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru. “Mae pob un ohonom ni yn e-Lyfrgell GIG Cymru yn falch iawn o ddarparu ar gyfer a gweithio gyda’n defnyddwyr, timau llyfrgell a chyflenwyr, a byddwn yn parhau i weithio â brwdfrydedd bob dydd.”