Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yma i gefnogi mynediad teg at adnoddau cenedlaethol lle bynnag y bydd eich lleoliadau gwaith yn mynd â chi.
Y mis hwn rydyn ni’n awyddus i dynnu sylw at ein Meddygon Preswyl presennol a newydd, ac i rannu rhai o’n hadnoddau gwych sydd ar gael i gefnogi eich ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Bydd y rhifyn arbennig hwn o’r e-Lyfrgell i Bobl Brysur yn ymdrin â phynciau sy’n gysylltiedig â lleoliadau gwaith ar gyfer Meddygon F1 yn GIG Cymru.
Cofiwch ymweld â Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru a all eich helpu i gael hyd i wybodaeth am fwy o bynciau. Nhw yw’r arbenigwyr mewnol ar gyfer gwybodaeth a gwasanaethau llyfrgell.
Mae’r holl e-adnoddau a restrir ar gael ble bynnag rydych chi’n cysylltu â’r rhyngrwyd.
Dyma sut:
Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost GIG Cymru a’ch cyfrinair rhwydwaith i fewngofnodi drwy OpenAthens. Pan fyddwch chi’n cyrchu adnodd o’n gwefan neu LibrarySearch (catalog y llyfrgell), gofynnir i chi fewngofnodi a dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn yn ystod eich sesiwn bori gyfredol.
O fan hyn, gallwch chi ddechrau creu proffiliau personol ar gyfer yr adnoddau sydd bwysicaf i chi. Bydd hyn yn cynnwys gosod hysbysiadau ar gyfer newidiadau i bynciau’n ymwneud ag offer penderfyniadau clinigol, cadw chwiliadau ac erthyglau, a hyd yn oed cadw cofnod o addysg feddygol barhaus/DPP.
Angen gweld hyn ar waith? Gwyliwch Mewngofnodi i’r e-Adnoddau (fideo 2:26 ar YouTube)
Mae’r dolenni isod yn chwilio yn LibrarySearch am erthyglau mewn cyfnodolion, llyfrau a mwy ar bwnc penodol. Gallwch gadw’r chwiliadau hyn a gosod hysbysiadau drwy greu cyfrif personol yn LibrarySearch. Gweler ein fideo ar ddod o hyd i gyfnodolion yn ôl pynciau, a sut i osod hysbysiadau yn y cyhoeddiadau sy’n bwysig i chi. (fideo 9.03 ar YouTube)
Chwilio catalog ar Feddygaeth Frys
Cyfnodolion Prydeinig (pob e-gyfnodolyn gyda ‘British Journal’ yn y teitl)
Cyfnodolion Rhyngwladol (pob e-gyfnodolyn sy’n cynnwys ‘European’, ‘International’ neu ‘American’ yn y teitl)
e-Gyfnodolion holl-bwysig:
BMJ (34 o gyfnodolion ar gael)
Lancet (21 o gyfnodolion ar gael)
New England Journal of Medicine a chyhoeddiadau NEJM eraill (25 o gyfnodolion ar gael)
e-Gyfnodolion LibrarySearch yn ôl pwnc
Cyhoeddiadau ‘Oxford Handbook/Textbook’ (118 canlyniad)
Chwilio am e-lyfrau ar feddygon iau/dan hyfforddiant (15 canlyniad)
Lawrlwythwch yr ap BMJ Best Practice i gael mynediad all-lein at wybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y man lle rhoddir gofal.
BMJ Best Practice: Comorbidities Manager
Gallwch gael mynediad i BMJ Best Practice a’r nodwedd “Comorbidities Manager” drwy ddewis pwnc acíwt. Mae’r “algorithm triniaeth” yn gadael i chi ddewis cymaint o gydafiacheddau cyffredin ag a restrir, ac yn amlygu achosion lle yr effeithir ar opsiwn triniaeth gan y cydafiacheddau a ddewisoch.
Gwyliwch fideo byr ar BMJ Comorbidities Manager (3:08)
BMJ Best Practice Fideos Triniaethau
BMJ Best Practice yn ôl Arbenigedd
Addysg Feddygol Barhaus a DPP yn BMJ Best Practice
Lawrlwythwch ap ClinicalKey i gael mynediad at yr isod o unrhyw le
Clinical Key Fideos Triniaethau
Clinical Key yn ôl Trosolwg Clinigol
Clinical Key a chanllawiau NICE
Clinical Key Addysg Feddygol Barhaus/DPP
Mae Canllawiau NEWT yn adnodd ar ddarparu neu roi meddyginiaethau i gleifion sydd ag anawsterau llyncu, gan gynnwys cyngor ar ddatrys rhwystrau yn y tiwbiau a rhyngweithiadau bwydo enterig.
MedicinesComplete (Martindale: The Complete Drug Reference neu Chwilio yn BNF, neu Chwilio yn BNFc)
Mae MedicinesComplete yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth yn ymwneud â:
Rhoi Cyffuriau
Drug Administration via Enteral Feeding Tubes
Martindale’s Adverse Drug Reaction (ADR) Checker
Mwy o Wybodaeth am Feddyginiaethau
BMJ Learning Sgiliau Clinigol
BMJ Learning Sgiliau Proffesiynol
BMJ Learning Meddygon Sylfaen
BMJ Learning Meddygon dan Hyfforddiant
Mae BMJ Learning Portffolio yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio; gellir ei ddefnyddio gyda chyrsiau BMJ Learning a gwybodaeth allanol arall hefyd a gall fod yn ddull defnyddiol i gefnogi prosesau gwerthuso.
Mwy am Achredu a DPP gyda BMJ Learning
Bydd e-Lyfrgell GIG Cymru ar gael i chi ble bynnag ydych chi yng Nghymru. Os nad yw adnoddau’n gweithio fel y disgwyl, rhowch wybod drwy e-bostio elibrary@wales.nhs.uk neu siaradwch â Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!