Mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn cynnal adolygiad o’u Hoffer Pwynt Gofal, BMJ Best Practice a DynaMed
Sut y gallwch chi helpu:
Mae angen iddynt wybod a yw'r offer yn diwallu’ch anghenion gwybodaeth.
Pam mae’ch adborth yn hanfodol:
Bydd yr wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn cynorthwyo penderfyniad Bwrdd Gwasanaeth e-Lyfrgell GIG Cymru o ran adnewyddu’r Offer Pwynt Gofal.
Sut i adael adborth:
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan:
Ddim yn gyfarwydd â’r adnoddau hyn?
Gallwch chi gymryd rhan o hyd hefyd.
Beth mae'r adolygiad yn edrych arno?
Mae Offer Pwynt Gofal yn e-adnoddau ymchwil a chyfeirio y gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol eu defnyddio ar unwaith ar bwynt gofal gyda chlaf. Mae’r mwyafrif o offer pwynt gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys lefelau tystiolaeth, graddfeydd neu argymhellion gradd yn ogystal â chyfeirnodau i’r astudiaethau ymchwil, adolygiadau systematig neu ganllawiau gwreiddiol.
Mae BMJ Best Practice yn cynnig dull cam wrth gam i helpu i reoli diagnosis, prognosis, triniaeth ac atal. Mae wedi’i strwythuro o gwmpas ymgynghoriad cleifion, gyda chyngor ar werthuso symptomau, profion i’w harchebu a dulliau trin. Mae’n cefnogi gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol ar bwynt gofal gan ddarparu gwybodaeth am anghenion gwybodaeth feddygol go iawn, amrywiol sy’n newid yn barhaus.
Mae DynaMed yn darparu gwybodaeth gyfredol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar bwynt gofal. Mae’n cynnwys lefelau o labeli tystiolaeth fel y gall defnyddwyr bennu ansawdd y dystiolaeth ac mae wedi’i gynllunio fel y gall defnyddwyr ddod o hyd i atebion i’w cwestiynau clinigol. Mae pynciau’n cynnwys adran Trosolwg ac adran Argymhellion ar gyfer adolygiadau lefel uchel, ac mae’r tabl cynnwys yn helpu defnyddwyr i astudio’r dystiolaeth yn fwy trylwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r adolygiad, cysylltwch ag elibrary@wales.nhs.uk neu’ch llyfrgell leol yn GIG Cymru neu Lywodraeth Cymru.
[RS(-HaSC1]URL TBC