Neidio i'r prif gynnwy

Ydy The Great Ormond Street Hospital Manual of Children and Young People's Nursing Practices yn gwneud Effaith?

Mae angen eich adborth arnom

Mae tanysgrifiad ein e-Lyfrgell GIG Cymru i Lawlyfr Ysbyty Great Ormond Street (GOSH) (2il Argraffiad), a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2025, yn darparu mynediad cyfartal at ganllawiau a chyngor ar Arferion Nyrsio ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

Rydym am wybod sut mae Cymru’n elwa o gael mynediad at Lawlyfr GOSH: 

Pa mor aml ydych chi’n ei ddefnyddio? Pa nodweddion sydd bwysicaf? Beth sydd ei angen i wella eich profiad o Lawlyfr GOSH?

Rhannwch eich sylwadau a’ch awgrymiadau gyda ni cyn 30 Medi 2025. 

Bydd ein tanysgrifiad presennol yn dod i ben ym mis Chwefror 2026/ Bydd eich adborth yn ein helpu i nodi'r effaith y mae'r e-adnodd hwn yn ei chael ar ein defnyddwyr ac mewn gofal cleifion i ddangos eu gwerth, ac a ddylid ei ailgaffael eto.

 

Ydych chi’n newydd i The Great Ormond Street Hospital Manual of Children and Young People’s Nursing Practices?

Mae’r llawlyfr ar gael drwy e-Lyfrgell GIG Cymru, ac mae’n cynnwys canllawiau ar gyfer mwy na 300 o driniaethau - o ofal newyddenedigol i ofal pobl ifanc. Mae’r llawlyfr yn dangos pob triniaeth ac yn sôn am yr heriau unigryw o weithio gyda phlant a phobl ifanc.  

Mae penodau newydd yn trafod iechyd meddwl, therapïau cyflenwol, anawsterau dysgu, a’r plentyn sy’n dirywio, tra bod cynnwys estynedig yn archwilio pynciau fel monitro glwcos yn y gwaed, triniaeth glwcocorticoid, rhoi inswlin, gofal diabetes, diathermedd llawfeddygol, cymorth anadlu anfewnwthiol, a llawer mwy. 

Mae The Great Ormond Street Hospital Manual of Children and Young People’s Nursing Practices yn ategu’r Royal Marsden Manual of Clinical Nursing Procedures gan gynnig parhad i’r rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau oedolion a phediatrig. 

 

Darganfyddwch ein holl ganllawiau o: https://eli.gig.cymru/canllawiau/