Neidio i'r prif gynnwy

Tanysgrifiad e-Lyfrgell GIG Cymru i TRAVAX yn dod i ben ym mis Ebrill 2020

O fis Ebrill 2020, ni fydd e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru bellach yn darparu mynediad i TRAVAX gan NHS Scotland yn dilyn adolygiad dwy flynedd o adnoddau gwybodaeth iechyd teithio. Pe bai'ch gwasanaeth neu'ch adran yn cysylltu â TRAVAX, nodwch, o fis Ebrill 2020, na fydd y ddolen hon yn gweithio mwyach a bydd angen ei newid i TravelHealthPro.

 

Cefndir

Ar hyn o bryd, mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn tanysgrifio i TRAVAX a gynhyrchir gan NHS Scotland fel ei adnodd gwybodaeth Iechyd Teithio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn GIG Cymru.

 

Mae gan TRAVAX chwaer gyhoeddiad hefyd (FitforTravel) sydd wedi'i anelu at aelodau'r cyhoedd.

 

Mae Public Health England yn argymell y dylid ceisio cael gwybodaeth sy'n ymwneud â phroffylacsis gwrth-falaria ar gyfer GIG Cymru gan TravelHealthPro a gynhyrchir gan y National Travel Health Network and Centre (NaTHNaC):

“Rydym yn argymell bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn defnyddio un adnodd ar gyfer argymhellion malaria gwlad-benodol er mwyn sicrhau cyngor cyson. Er ein bod yn cydnabod bod ffynonellau cyngor eraill ar gael, cynghorir gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yng Nghymru, Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon i ddefnyddio canllawiau ACMP fel eu prif ffynhonnell arweiniad ar gyfer atal malaria. Maent hefyd ar gael ar wefan NaTHNaC: https://travelhealthpro.org.uk. Cynhyrchir canllawiau ar wahân yn yr Alban ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yr Alban gan Scottish Malaria Advisory group.” (Public Health England Guidelines for Malaria Prevention in Travellers from the UK, 2019, p. 12)

 

Arolygu a dadansoddi

O ganlyniad i'r argymhelliad hwn, cychwynnodd Grŵp Hyrwyddwyr e-Lyfrgell GIG Cymru, gyda chynrychiolaeth o ystod o ddisgyblaethau iechyd a gofal a gwybodaeth, ddarn o waith i benderfynu a ddylai'r e-Lyfrgell newid y ffynhonnell wybodaeth iechyd teithio a ffefrir ar gyfer GIG Cymru o TRAVAX i TravelHealthPro. Ym mis Chwefror 2019, dosbarthwyd arolwg i GIG Cymru er mwyn nodi pa adnoddau iechyd teithio y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu defnyddio, pam eu bod yn eu defnyddio a beth yw'r ffynhonnell a ffefrir ganddynt. Nodwyd mai TravelHealthPro yw’r ffynhonnell a ffefrir gan y rhan fwyaf o bobl ar gyfer gwybodaeth iechyd teithio.

 

Canlyniad

Yn dilyn yr arolwg, cytunodd y Grŵp Hyrwyddwyr e-Lyfrgell, y Bwrdd Gwasanaeth, Galw Iechyd Cymru ac arbenigwyr pwnc mewn gwybodaeth iechyd teithio, iechyd y cyhoedd, fferylliaeth, gwybodaeth am feddyginiaethau a diogelu iechyd i ganslo'r tanysgrifiad cenedlaethol i TRAVAX ac i gyfeirio defnyddwyr GIG Cymru a’r cyhoedd i TravelHealthPro o fis Ebrill 2020 pan ddaw'r contract cyfredol gyda TRAVAX i ben.

 

Beth nesaf?

Mae Galw Iechyd Cymru yn y broses o ddiweddaru gwefan Galw Iechyd Cymru i gyfeirio'r cyhoedd at TravelHealthPro. Bydd e-Lyfrgell a Grŵp Hyrwyddwyr GIG Cymru yn creu canllaw pwnc gwybodaeth iechyd teithio ar-lein a fydd ar gael ar wefan yr e-Lyfrgell ym mis Ebrill 2020. Bydd y canllaw pwnc yn hyrwyddoTravelHealthPro fel y ffynhonnell wybodaeth a ffefrir ar gyfer GIG Cymru a bydd yn cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth eraill a nodwyd gan gyfranogwyr yr arolwg i gefnogi defnyddwyr sydd angen mynediad at y math hwn o wybodaeth.

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â mynediad at wybodaeth iechyd teithio, cysylltwch â thîm e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru.