Mae gennym ni gwestiynau. Mae gennych chi atebion.
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn tanysgrifio i Lyfrgell Cochrane - gan gynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig - gan ei gwneud ar gael am ddim i bawb yng Nghymru, gan gynnwys dinasyddion preifat.
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn adolygu adnoddau fel Llyfrgell Cochrane yn rheolaidd er mwyn deall yn well sut mae’n cael ei ddefnyddio a phwy sy’n cael budd o fynediad.
Rydym ni eisiau gwybod sut mae Cymru wedi elwa o Lyfrgell Cochrane.
Sut mae’n gweithio i chi? A yw Llyfrgell Cochrane yn syml ac yn hawdd i’w defnyddio? Pa mor aml ydych chi’n ymweld â Llyfrgell Cochrane neu’n defnyddio ei nodweddion?
Llenwch ein harolwg os gwelwch yn dda.
Rhannwch eich sylwadau a’ch awgrymiadau gyda ni cyn 31 Hydref.