Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i AMED, Embase, PsychInfo a Medline

O fis Rhagfyr 2022, bydd y cronfeydd data llenyddiaeth feddygol hyn yn symud i blatfform newydd ar gyfer holl ddefnyddwyr e-Lyfrgell GIG Cymru.

 

Beth sy'n Newid?

Mae AMED, Embase, PsychInfo a Medline wedi bod yn hygyrch cyn hyn o blatfformau ProQuest trwy'r e-Lyfrgell. O 1 Rhagfyr, bydd defnyddwyr bellach yn cyrchu'r cronfeydd data hyn o'r platfform a elwir yn Ovid.

 

 

Sut bydd hyn yn effeithio arna i?

Os ydych chi'n defnyddio AMED, Embase, PsychInfo neu Medline ar blatfformau ProQuest ar hyn o bryd, bydd angen i chi ailgadw unrhyw chwiliadau sydd wedi'u cadw i'r platfform Ovid newydd.

Mae gan Ovid nodwedd Search Translator y gallwch ei defnyddio i drosi eich chwiliadau a gadwyd i Ovid. Dewiswch 'ProQuest Dialog' fel y platfform tarddu. (Mae ‘Search Translator Tool’ Ovid hefyd yn trosi chwiliadau ar gyfer Embase.com a Pubmed).

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad arnoch gyda'r broses hon, anfonwch e-bost at elibrary@wales.nhs.uk neu gallwch ofyn i Wolters Kluwer yn uniongyrchol am gymorth drwy gysylltu â support@ovid.com.

 

Arhoswch, roeddwn i'n gallu ei gyrchu o'r blaen! Oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Mae’n bosibl bod rhai defnyddwyr ar draws GIG Cymru wedi gallu cyrchu'r cronfeydd data hyn ar lwyfan Ovid drwy eich Llyfrgell GIG Cymru leol. 

Er mwyn i'ch chwiliadau sydd wedi'u cadw gael eu trosglwyddo, gwnewch gais i dîm ‘Ovid Support’ support@ovid.com.

 

Pryd fydd hyfforddiant?

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn gweithio gyda darparwr y platfform i drefnu nifer o weminarau trwy gydol y flwyddyn, gan ddechrau o fis Rhagfyr gyda bore coffi rhithwir (8 Rhagfyr 11-11:30) wedi'i anelu at ein chwilwyr arbenigol ymhlith ein defnyddwyr. Mae croeso i bawb.

Mae mwy o hyfforddiant wedi'i gynllunio o fis Ionawr 2023, gan ddechrau gyda hyfforddiant ar gyfer Medline. Bydd dyddiadau yn cael eu cadarnhau yn fuan.

 

Mae’r holl hyfforddiant a digwyddiadau i’w gweld yng nghalendr yr e-Lyfrgell https://elh.nhs.wales/news1/e-library-calendar/ lle cewch wybodaeth ar sut i gofrestru eich diddordeb.

Neu ymunwch â'r rhestr e-bost hyfforddiant a digwyddiadau e-Lyfrgell a chael gwahoddiadau yn awtomatig i bob digwyddiad hyfforddi sy'n ymwneud â'r e-adnoddau. Anfonwch e-bost at elibrary@wales.nhs.uk i ofyn i'ch enw a'ch cyfeiriad e-bost gael eu hychwanegu.

 

Oes gennych chi gwestiwn o hyd?

Anfonwch e-bost at elibrary@wales.nhs.uk