Mynediad at gronfeydd data Cymdeithasol, Rheolaeth a Mamolaeth yn GIG Cymru:
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn falch o gadarnhau mynediad at y cronfeydd data canlynol:
Mae mynediad newydd at y cronfeydd data Casgliad Cymdeithaseg a Pholisi ac Ymarfer Cymdeithasol yn golygu, am y tro cyntaf yn GIG Cymru, y gall yr holl ddefnyddwyr fanteisio ar yr adnoddau newydd hyn ar rwydwaith GIG Cymru neu drwy eich cyfrifon OpenAthens GIG Cymru.
Yn flaenorol, mae e-Lyfrgell GIG Cymru wedi darparu mynediad at y Gronfa Ddata Gweinyddiaeth Gofal Iechyd a’r Gronfa Ddata Gofal Mamolaeth a Babanod, ac os ydych yn ymwelwyr rheolaidd â’r e-adnoddau hyn, byddwch eisoes yn gyfarwydd â’r cronfeydd data hyn.
Bydd y gweminarau ar gyfer yr holl adnoddau hyn yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Os hoffech gael gwybod y diweddaraf am yr holl weminarau sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm e-Lyfrgell ar elibrary@wales.nhs.uk neu cymerwch olwg ar galendr yr e-Lyfrgell.