Mae e-Lyfrgell GIG Cymru wedi ymrwymo i roi canllawiau allweddol i chi ynghylch offer deallusrwydd artiffisial o fewn gwaith llyfrgell ac ymchwil bob dydd.
Mae'r polisi newydd hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
Cyfraith Hawlfraint o fewn trwydded CLA GIG Cymru
Canllawiau ar gaffael offer deallusrwydd artiffisial, mabwysiadu diogel ar gyfer cydweithwyr GIG Cymru, a glynu wrth weithdrefnau sefydliadol
Cefnogir y polisi newydd gan ganllawiau presennol megis:
https://eli.gig.cymru/cymorth/canllawiau-hawlfraint/
https://eli.gig.cymru/cymorth/deallusrwydd-artiffisial-ai/
Mae'r tudalennau cymorth hyn yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gan dîm yr e-Lyfrgell a'n cymuned Hyrwyddwyr ac yn cael eu diweddaru wrth i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg ar y pynciau hyn.
Ble mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio yn e-Lyfrgell GIG Cymru?
Mae rhai cyflenwyr wedi sicrhau bod nodweddion deallusrwydd artiffisial ar gael o fewn tanysgrifiadau e-Lyfrgell cyfredol.
Cyfeiriwch at ein polisi Deallusrwydd Artiffisial newydd wrth ddewis defnyddio'r nodweddion dewisol hyn.
Os ydych chi wedi defnyddio'r nodweddion hyn, rhannwch eich adborth gyda ni, fel y gallwn barhau i ddeall y manteision a'r effaith y gallai'r offer hyn eu cael ar eich meysydd gwaith.
Eisiau cymryd mwy o ran mewn trafodaethau ar offer deallusrwydd artiffisial sy'n ymwneud â Llyfrgelloedd, Gwybodaeth ac Ymchwil? Nawr yw'r amser perffaith i ddod yn Hyrwyddwr e-Lyfrgell