Neidio i'r prif gynnwy

Mae mewngofnodi GIG Cymru yn newid o fis Ionawr 2025

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn gwella’r broses fewngofnodi i ddefnyddwyr GIG Cymru er mwyn gwella seiberddiogelwch, yn unol â GIG Cymru, drwy ddefnyddio proses ddilysu aml-ffactor. Efallai bod rhai defnyddwyr eisoes yn gyfarwydd â dilysu aml-ffactor ac wedi ei ddefnyddio ar systemau eraill GIG Cymru ac wrth ddechrau sesiynau pori newydd ar Edge neu Chrome. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio’n eang gan y rhan fwyaf o gwmnïau ar y rhyngrwyd, ac felly mae’n bosib y byddwch chi wedi ei ddefnyddio y tu allan i’r gwaith hefyd.

O fis Ionawr 2025, bydd y sgrin lle mae defnyddwyr yn nodi eu cyfeiriad e-bost a’u cyfrinair yn newid ac yn cael ei disodli gan y llwybr dilysu aml-ffactor canlynol:

Mae defnyddwyr sydd â chyfeiriadau e-bost GIG Cymru yn defnyddio eu cyfeiriad e-bost a chyfrinair rhwydwaith i fewngofnodi i gael mynediad at e-adnoddau y mae’r e-Lyfrgell wedi tanysgrifio iddynt.

O Ionawr 2025:

  • Os ydych yn defnyddio dyfais a ddarparwyd gan GIG Cymru, a phorwr Microsoft Edge, ni fydd angen i chi fewngofnodi mwyach. Y rheswm am hyn yw y bydd adnoddau’n gwybod pwy ydych chi gan eich bod wedi mewngofnodi i’ch dyfais waith.

Os nad ydych yn defnyddio dyfais GIG Cymru, neu os byddwch yn defnyddio porwr gwe arall megis Google Chrome, bydd y camau mewngofnodi yn newid. Rydym wedi cynnwys sgrinluniau isod i ddangos y daith defnyddiwr hon:

Os gwelwch y sgrin hon wrth geisio defnyddio e-adnoddau’r e-Lyfrgell:

Teipiwch eich cyfeiriad e-bost GIG Cymru a dewiswch “Nesaf.”

Bydd ffenestr “Rhowch Gyfrinair” yn ymddangos, y tro hwn gyda logo GIG Cymru arni:

Teipiwch eich cyfrinair rhwydwaith GIG Cymru – yr un un a ddefnyddiwch i fewngofnodi i ddyfeisiau a systemau rhwydwaith.

Unwaith y byddwch wedi mewnbynnu eich cyfrinair, gwasgwch “Mewngofnodi” a byddwch yn gweld neges gymeradwyo.

Defnyddiwch eich ap dilysu (Microsoft Authenticator) i nodi’r rhif a ddarparwyd a chwblhau’r broses.

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple, ac mae’n defnyddio dull dilysu aml-ffactor i gadw systemau TG GIG Cymru yn fwy diogel rhag bygythiadau seiber.

Microsoft Authenticator – Google Play

Microsoft Authenticator – App Store

Os ydych yn cael trafferth wrth lawrlwytho neu ddefnyddio ap dilysu GIG Cymru, cysylltwch â Desg Wasanaeth TG eich Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth neu Awdurdod Iechyd Arbennig.

 

 

Cwestiynau Cyffredin

Nid oes gennyf gyfeiriad e-bost GIG Cymru. Ydy hyn yn effeithio arna i?

Na, os nad oes gennych chi gyfeiriad e-bost GIG Cymru, ni fydd dilysu aml-ffactor yn effeithio arnoch chi. Parhewch i fewngofnodi fel rydych chi wedi bod yn gwneud hyd nawr.

Sut mae hyn yn effeithio ar fewngofnodi i e-adnoddau?

Yn flaenorol, byddai’r sgrin mewngofnodi yn ymddangos fel sgrin las a gwyn, gyda logo GIG Cymru, a blychau i roi eich e-bost GIG Cymru a’ch cyfrinair rhwydwaith:

O fis Ionawr 2025, byddwch yn defnyddio’r broses dilysu aml-ffactor uchod os ydych chi’n defnyddio dyfais bersonol neu borwr heblaw Microsoft Edge ar ddyfais GIG Cymru. Nid oes angen i chi fod wedi’ch cysylltu â dyfais rhwydwaith GIG Cymru i gael mynediad i’r e-adnoddau, ond bydd angen i chi gael mynediad at ap Microsoft Authenticator, y gallwch ei lawrlwytho’n rhad ac am ddim.

 

Dydw i erioed wedi bod angen defnyddio ap dilysu. Nid oes gennyf unrhyw beth felly ar gyfer fy nghyfrif GIG Cymru. Beth ddylwn i ei wneud?

Cysylltwch â Desg Wasanaeth TG eich Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth neu Awdurdod Iechyd Arbennig.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n cael problem wrth fewngofnodi?

Os cewch unrhyw broblemau neu anawsterau wrth ddefnyddio dilysu aml-ffactor, rhowch wybod i Ddesg Wasanaeth TG eich Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth neu Awdurdod Iechyd Arbennig. Ni all yr e-Lyfrgell ddatrys unrhyw broblemau gyda’ch cyfrif GIG Cymru.

Wrth roi gwybod am y broblem i’ch Desg Wasanaeth TG leol, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi bod y mater yn ymwneud â’ch cyfrif GIG Cymru a darparwch sgrinluniau i osgoi anfon yr ymholiad ymlaen at dîm yr e-Lyfrgell.

Os ydych chi’n cael problem sy’n ymwneud yn benodol â’r e-adnoddau, e.e. dydyn nhw ddim yn gweithio fel y byddwch chi’n disgwyl, dylech barhau i roi gwybod am achosion o’r fath i'r tîm e-Lyfrgell drwy e-bostio elibrary@wales.nhs.uk.