Neidio i'r prif gynnwy

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn ffarwelio ag X (Twitter gynt) 

Mae tîm yr e-Lyfrgell wedi bod yn cadw llygad ar y diwylliant sy’n parhau i fod ar X/Twitter, gyda phryderon ynghylch digwyddiadau cyson o ysgogi trais, camwybodaeth a gwahaniaethu. 

Rydyn ni’n credu mewn arweinyddiaeth ystyriol sy’n meithrin diwylliannau dysgu ar sail tystiolaeth ac sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Felly rydyn ni wedi penderfynu gorffen defnyddio X/Twitter ar 30 Medi 2024. Diolch i’n dilynwyr hen a newydd sydd wedi helpu i ledaenu ein negeseuon yno.  

Byddwch yn dal i fedru rhannu ac ail-rannu ein postiadau ar y platfformau canlynol [Instagram, LinkedIn, YouTube] neu anfonwch e-bost at elibrary@wales.nhs.uk os hoffech ymuno â’n rhestr e-bost ar gyfer digwyddiadau, hyfforddiant a chyhoeddiadau.  

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn rhan o Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Mae gan IGDC bresenoldeb ar y platfformau cyfryngau cymdeithasol canlynol a gall rannu newyddion pwysig ar ran yr e-Lyfrgell ar ei holl sianeli cyfryngau cymdeithasol: [Twitter, Instagram, LinkedIn, Facebook]