Neidio i'r prif gynnwy

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn dathlu Wythnos Llyfrgelloedd y DU gyda phedair gweminar addysgiadol

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn dathlu Wythnos Llyfrgelloedd y DU gyda chyfres o weminarau sy’n amlygu’r llu o offer sydd gan yr e-Lyfrgell i gefnogi ei defnyddwyr.  

  • Yn y cyntaf - ar ddydd Llun 7 Hydref am 2pm - bydd Ali Boukabache o BMJ yn archwilio sut mae cyfrifon personol ar gyfer adnoddau BMJ yn caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at swyddogaethau ychwanegol ar blatfform BMJ, fel arbed chwiliadau, allgludo canlyniadau a llawer mwy.

 https://events.teams.microsoft.com/event/6c13624e-ae09-4cc9-b7ea-312c9b724024@bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae 

 

  • Am 2pm ar ddydd Mawrth 8 Hydref, bydd Bex Meyrick o’r e-Lyfrgell yn arwain taith drwy adnoddau’r e-Lyfrgell wrth iddi dynnu sylw at nodweddion hygyrchedd fel estyniadau porwr ac ategion. Bydd y daith hon yn edrych ar gymwysiadau hygyrchedd sydd ar gael ar Edge a Chrome, nodweddion platfform hygyrch i gefnogi darllen, ac offer aml-gyfrwng i wella dysgu.

https://events.teams.microsoft.com/event/4f8f3cb3-bcf6-492f-80df-5b7ec9f2366c@bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae

 

  • Yna, ymunwch â ni am 2pm ddydd Mercher 9 Hydref i gael golwg 360 gradd ar y dirwedd cyhoeddi ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru. Darperir y sesiwn gan grŵp hyfforddi Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru a thîm yr e-Lyfrgell. Mae’r cynghorion craff hyn yn sicr o helpu unrhyw un sy’n ceisio cael eu gwaith wedi’i gyhoeddi.   

https://events.teams.microsoft.com/event/d8117288-8ab1-44c6-896d-20eb8854de6e@bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae 

 

  • Daw’r wythnos i ben am 10 ar ddydd Iau 10 Hydref gyda chyflwyniad awr o hyd i ddulliau effeithiol o chwilio am lenyddiaeth. Bydd y sesiwn yn gwneud defnydd o gronfeydd data sydd ar gael i holl staff a myfyrwyr GIG Cymru trwy e-Lyfrgell GIG Cymru. P’un a ydych yn fyfyriwr sy’n dilyn cwrs neu’n weithiwr iechyd proffesiynol sydd eisiau gwneud dim mwy na chadw i fyny â’r dystiolaeth i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus, mae’r weminar hon i chi. 

https://events.teams.microsoft.com/event/4727a3b8-7021-4362-831b-4497d33d8de9@bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae 

 Ewch i galendr e-Lyfrgell GIG Cymru am ragor o wybodaeth neu ysgrifennwch atom yn elibrary@wales.nhs.uk.