Neidio i'r prif gynnwy

Mae dyfarniad contract Cronfeydd Data newydd yn dod â rhai newidiadau i e-Lyfrgell GIG Cymru.

O fis Ionawr 2026 ymlaen, bydd holl ddefnyddwyr e-Lyfrgell GIG Cymru yn parhau i gael mynediad at gronfeydd data iechyd a gofal allweddol gan gynnwys cronfeydd data newydd. Fodd bynnag, bydd newidiadau'n cael eu gwneud i gronfeydd data presennol:

 

Newid yn y rhyngwyneb:

Allied & Complementary Medicine (AMED) - symud o'r rhyngwyneb OVID SP (Wolters Kluwer) i'r rhyngwyneb ProQuest Dialog a ProQuest (Clarivate: ProQuest)

 

Newid yn y tanysgrifiad:

Applied Social Sciences Index & Abstracts (ASSIA) - israddio o Gasgliad Cymdeithaseg

 

CINHAL gyda Thestun Llawn - israddio o CINAHL Plus gyda Thestun Llawn

 

Newid enw:

Bydd BNI/BND bellach yn cael ei alw'n British Nursing Collection

 

Cronfa ddata newydd:

Public Health Database

 

Mae pob cronfa ddata arall sy'n bodoli eisoes yn parhau heb ei newid. Ewch i https://eli.gig.cymru/cronfeydd-data/ i weld y cwmpas llawn o gronfeydd data y tanysgrifiwyd iddynt ac sydd ar gael am ddim i holl ddefnyddwyr GIG Cymru.

Allied & Complimentary Medicine AMED

O fis Ionawr 2026 ymlaen, dim ond drwy blatfform Proquest neu blatfform Dialog y bydd y gronfa ddata hon ar gael, y ddau yn cael eu rheoli gan Clarivate. Mae'r cyflenwr yn cefnogi'r newid drwy ddarparu mynediad o fis Tachwedd 2025.

 

Mae AMED yn gronfa ddata lyfryddol sy'n cynnwys gwybodaeth am therapïau cyflenwol a pherthynol yn ogystal â phynciau cysylltiedig. Fe'i cynhyrchir yn fewnol yn y Llyfrgell Brydeinig ac ar hyn o bryd mae'n cael ei chynnal ar blatfform Wolters Kluwer OVID tan 31 Rhagfyr 2025. Mae’n cynnwys amrywiaeth o deitlau rhyngwladol. Mae'r cynnwys yn dyddio o 1985 hyd heddiw ac mae'n cael ei ddiweddaru gyda chynnwys newydd bob mis.

 

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn gweithio gyda chyflenwyr i gefnogi “trosi” chwiliadau a rhybuddion fel y gall defnyddwyr barhau i ddefnyddio’r gronfa ddata hon yn hyderus o’i lleoliad newydd. Bydd cyfleoedd dysgu a hyfforddi ar gael hefyd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2025.

 

Os oes gennych ymholiadau penodol ynglŷn â throsi eich chwiliadau presennol, anfonwch eich ymholiad at elibrary@wales.nhs.uk fel y gallwn eich cefnogi gyda'r broses hon.

ASSIA

O fis Ionawr 2026 ymlaen, y gronfa ddata hon fydd yr unig gronfa ddata sy'n weddill o'r Casgliad Cymdeithaseg. Nid oes unrhyw newidiadau i'r platfform yn y gronfa ddata hon.

 

Yn cynnwys cofnodion o 19 o wledydd. Mae’r gronfa ddata Mynegai a Chrynodebau Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol yn ymdrin â’r gwyddorau cymdeithasol, cwnsela, plismona a gwaith cymdeithasol. Mae’n cynnwys cyfeiriadau at erthyglau ar faterion cymdeithasol, tlodi, caethiwed, trosedd, trais, gwahaniaethu, anghydraddoldeb a mwy.

Caiff y gronfa ddata ei diweddaru yn fisol.

 

British Nursing Index and British Nursing Database

 

Bydd y cronfeydd data hyn yn parhau i fod ar gael o lwyfannau Proquest a Dialog, fodd bynnag, byddant yn cael eu hailenwi'n British Nursing Collection.

 

Mae BNI yn gronfa ddata lyfryddol sy'n mynegeio erthyglau o gyfnodolion nyrsio Saesneg a gyhoeddwyd yn bennaf yn y DU. Mae'n fynegai cynhwysfawr sy'n cwmpasu pob agwedd ar nyrsio, bydwreigiaeth a gofal iechyd cymunedol a gyhoeddwyd rhwng 1985 a’r presennol. Caiff y gronfa ddata ei diweddaru yn fisol.

 

Y BND yw'r fersiwn testun llawn o gronfa ddata lyfryddol British Nursing Index. Mae'n cwmpasu ymarfer, addysg, a llenyddiaeth ymchwil ar gyfer nyrsys, bydwragedd, gweithwyr cymorth gofal iechyd a darparwyr iechyd yn y DU a'r gymuned nyrsio ehangach. Mae’r llenyddiaeth yn cwmpasu teitlau a gyhoeddwyd yn y DU, Awstralia a Chanada, ynghyd â detholiad o deitlau nyrsio rhyngwladol eraill sy'n dyddio'n ôl i 1993.

 

CINHAL with Full Text

O fis Ionawr 2026 ymlaen, bydd gan ddefnyddwyr fynediad at CINAHL gyda Thestun Llawn yn hytrach na CINAHL Plus gyda Thestun Llawn. Nid oes unrhyw newid i'r cynnwys sydd wedi'i fynegeio yn y gronfa ddata, dim ond nifer y cyfnodolion testun llawn sydd ar gael, ac ar ôl adolygiad gofalus o'r data defnydd, dylai hynny gael yr effaith leiaf posibl ar ddefnyddwyr terfynol. 

Gall defnyddwyr barhau i gael mynediad at CINAHL yn yr un ffordd.

 

Ar hyn o bryd mae'r cyflenwr EBSCO yn trosglwyddo cwsmeriaid i ryngwyneb defnyddiwr newydd ac mae cynlluniau i GIG Cymru drosglwyddo ym mis Gorffennaf 2026. Bydd mwy o gyfathrebu ynghylch y newid yn cael ei wneud dros y misoedd nesaf.

 

Mae CINAHL Plus® with Full Text yn gronfa ddata testun llawn ac mae'n cwmpasu pynciau nyrsio, biofeddygaeth, llyfrgellyddiaeth gwyddorau iechyd, meddygaeth amgen/cyflenwol, iechyd defnyddwyr a disgyblaethau iechyd perthynol. Mae hefyd yn cynnwys taflenni gofal, modiwlau addysg, cofnodion offerynnau ymchwil, safonau ymarfer, a meddalwedd addysgol. Caiff ei diweddaru'n wythnosol ac mae'n cynnwys cofnodion o gyfnodolion sy'n dyddio'n ôl i'r 1930au. Daw llawer o'r cynnwys o Ogledd America, ond mae'n mynegeio llawer o gyfnodolion o’r DU hefyd.

 

 

 

 

Public Health Database

Cronfa ddata newydd ar gyfer GIG Cymru yw hon a bydd ar gael o fis Tachwedd 2025 i gefnogi rhanddeiliaid i ymgyfarwyddo â'r cynnwys a'r swyddogaethau. Bydd sesiynau dysgu a hyfforddi wedi'u trefnu ar gyfer Ionawr 2026.

 

https://about.proquest.com/en/products-services/publichealth/

 

Mae Public Health Database yn fan cychwyn ar gyfer gwybodaeth iechyd y cyhoedd i ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae'n cyflwyno llenyddiaeth graidd iechyd y cyhoedd o filoedd o gyhoeddiadau, llawer ohoni mewn testun llawn.