Neidio i'r prif gynnwy

Mae BJN Inform bellach ar gael drwy e-Lyfrgell GIG Cymru.

Mae BJN Inform bellach ar gael drwy e-Lyfrgell GIG Cymru.

O 1 Ebrill 2026, gall holl ddefnyddwyr e-Lyfrgell GIG Cymru gael mynediad at BJN Inform, a ddarperir gan y cyhoeddwyr Mark Allen Group.

Beth yw BJN Inform?

Mae'n blatfform dysgu ar-lein, wedi'i gynllunio i gefnogi gweithwyr nyrsio proffesiynol ar bynciau clinigol, proffesiynol a llesiant. Gellir ei ddefnyddio i olrhain eich DPP ar ac oddi ar y platfform i gefnogi ail-ddilysu.

A yw'n berthnasol i nyrsys yn unig?

Mae BJN Inform wedi'i anelu at broffesiynau Nyrsio, fodd bynnag fe welwch hefyd bynciau anghlinigol i gefnogi llesiant, gwydnwch, a meysydd rhyngddisgyblaethol eraill ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Sut ydw i'n cael mynediad?

Yn union fel ein hadnoddau e-ddysgu eraill, gallwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair GIG Cymru neu gyfrif OpenAthens. Bydd hyn yn creu proffil personol fel y gallwch olrhain eich cynnydd a manteisio ar nodweddion personol sydd ar gael.

Ddim yn siŵr sut i sefydlu neu actifadu eich cyfrif OpenAthens?

Ewch i'n Tudalen Mewngofnodi am ganllawiau sy'n berthnasol i chi.