Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliannau i Dudalen Adnoddau Cronfa Ddata

Gwelliannau i Dudalen Adnoddau Cronfa Ddata

 

Mae’r dudalen we Adnoddau Cronfa Ddata wedi’i diweddaru i roi disgrifiadau cliriach ar y math o gronfeydd data sydd ar gael, eu cwmpas ac a ydyn nhw ar gael drwy danysgrifiad e-Lyfrgell neu’n rhad ac am ddim.

 

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn cynnig mynediad at gronfeydd llyfryddol, testun llawn a chyfeiriadau i holl ddefnyddwyr awdurdodedig yr e-Lyfrgell, a thrwy hynny yn cefnogi ymchwil gan dimau Iechyd a Gofal yng Nghymru.

 

Bydd y cronfeydd data y mae’r e-Lyfrgell wedi tanysgrifio iddynt yn gofyn i chi fewngofnodi, naill ai gyda’ch cyfeiriad e-bost GIG Cymru a’ch cyfrinair rhwydwaith neu eich cyfrif OpenAthens GIG Cymru. Os nad oes gennych chi’r un o’r rhain, ond eich bod yn gymwys i gael mynediad, gallwch hunan-gofrestru i greu cyfrif neu cysylltwch â ni i gael cymorth pellach. Ni fydd y cronfeydd data sydd ar gael am ddim yn gofyn i chi fewngofnodi.

Mae URL y dudalen (linc) yn aros yr un peth: https://eli.gig.cymru/cronfeydd-data/ felly does dim angen diweddaru dolenni o wefannau eraill na nodau tudalen.

Cefnogaeth ychwanegol

Cewch hyd i gymorth wrth Chwilio am Lenyddiaeth a Chwilio drwy Gronfeydd Data yn adran Gymorth e-Lyfrgell GIG Cymru, sy’n cynnwys gwybodaeth fanwl a chanllawiau ar ddefnyddio’r e-adnoddau sydd ar gael.

Dylid ceisio hyfforddiant a chyngor lefel uwch a mwy arbenigol oddi wrth eich gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell lleol, y cewch hyd iddynt yma: https://eli.gig.cymru/gwasanaethau-llyfrgell/

Os ydych chi’n ansicr pwy y gallwch chi fynd atynt i gael cymorth a chyngor ar chwilio am lenyddiaeth, e-bostiwch elibrary@wales.nhs.uk ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y gwasanaeth neu’r adran fwyaf addas i chi.

Yn ogystal, mae’r Grŵp Hyfforddi Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru a thîm yr e-Lyfrgell yn cynnal gweminarau rheolaidd sy’n cyflwyno’r pwnc o chwilio am lenyddiaeth. Gwyliwch y recordiad diweddaraf o Cael Hyd i Wybodaeth ar ein gwefan.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau?

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru hefyd yn parhau i groesawu eich argymhellion o ran adnoddau eraill o safon, gan gynnwys unrhyw gronfeydd data yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys yn y casgliad.

E-bostiwch unrhyw gwestiynau, argymhellion neu awgrymiadau ar gyfer sesiynau hyfforddi i elibrary@wales.nhs.uk.