Mae tanysgrifiad e-Lyfrgell GIG Cymru i Ganllawiau NEWT yn rhoi mynediad teg i ganllawiau a chyngor ar roi meddyginiaethau i bobl ag anawsterau llyncu neu sydd angen bwydo enterig. Mae NEWT yn cael ei gynhyrchu a’i reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae ar gael ar draws GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol.
Rydym ni eisiau gwybod sut mae Cymru wedi elwa o gael mynediad i Ganllawiau NEWT:
Pa mor aml ydych chi’n ei ddefnyddio? Pa nodweddion sydd bwysicaf? Beth sydd ei angen i wella eich profiad o NEWT?
Rhannwch eich sylwadau a’ch awgrymiadau gyda ni cyn 31 Hydref.
Mae ein holl adnoddau tanysgrifiedig yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, ac mae adborth gan ddefnyddwyr yn ein helpu i nodi’r effaith y mae ein hadnoddau tanysgrifiedig yn ei chael ar ein defnyddwyr a gofal cleifion er mwyn dangos eu gwerth. Oeddech chi’n gwybod bod yr e-Lyfrgell wedi lansio ein tudalen Gwybodaeth am Feddyginiaethau newydd yn ddiweddar, sy’n rhestru ein hadnoddau Gwybodaeth am Feddyginiaethau sydd ar gael yn rhad ac am ddim, fel NEWT.
Edrychwch ar y rhestr lawn o adnoddau: https://elh.nhs.wales/medicines-information/