Neidio i'r prif gynnwy

Gall GIG Cymru nawr gael mynediad at y canllawiau NEWT

Gall GIG Cymru nawr gael mynediad at y canllawiau NEWT

 

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi nawr gael mynediad at Y Canllawiau NEWT ar gyfer gweinyddu meddyginiaeth i gleifion â thiwbiau bwydo enterig neu sydd ag anawsterau llyncu?

 

Cewch fynediad ar unwaith o rwydwaith GIG Cymru neu siaradwch â'ch gwasanaeth llyfrgell GIG Cymru lleol neu drwy e-bostio elibrary@wales.nhs.uk

 

Beth yw’r Canllawiau NEWT?

Os ydy’r Canllawiau NEWT yn newydd i chi, efallai nad ydych yn gwybod eu bod yn cael eu cynhyrchu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac am y tro cyntaf maent ar gael yn genedlaethol drwy e-Lyfrgell GIG Cymru

 

Gellir cael mynediad i’r wefan o rwydwaith GIG Cymru, neu drwy ddefnyddio manylion mewngofnodi defnyddiwr.

 

Beth yw pwrpas NEWT?

Myth: nid yw'r canllawiau ar gyfer cleifion â thiwbiau bwydo enterig yn unig.

Gyda mynediad i:

Bron i 700 o fonograffau cyffuriau wrth roi cyffuriau i gleifion drwy diwbiau bwydo enterig a chleifion ag anawsterau llyncu

 

Bron i 800 o ganllawiau myNEWT - taflenni gwybodaeth i gleifion â thiwbiau bwydo enterig.

 

Angen cymorth? Cysylltwch â elibrary@wales.nhs.uk