Fe wnaethon ni danysgrifio fel nad oes rhaid i chi!
Mae'r tîm e-Lyfrgell wedi bod yn brysur yn adolygu'r e-Gyfnodolion a argymhellir i chi ac yn adnewyddu'r rhai rydych chi'n eu defnyddio'n rheolaidd hefyd.
Sut ydych chi'n dod o hyd i e-Gyfnodolion rydyn ni'n tanysgrifio iddyn nhw?
Defnyddiwch gatalog y llyfrgell LibrarySearch. Gallwch deipio'r teitl rydych yn chwilio amdano yma: https://elh.nhs.wales/e-journals/ Bydd Mynediad ar unwaith i'r e-Gyfnodolyn pan fyddwch ar rwydwaith GIG Cymru, neu mewngofnodwch i'ch cyfrif OpenAthens GIG Cymru. Does dim cyfrif gennych? Gwyliwch y fideo hwn ar sut i greu eich cyfrif eich hun.
Mae LibrarySearch yn gatalog llyfrgell y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i erthyglau, e-Gyfnodolion, e-Lyfrau ac adnoddau ffisegol hefyd. Caiff ei reoli gan Brifysgol Caerdydd, a'i ddefnyddio ar y cyd ar draws gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru.
I fanteisio i'r eithaf ar ddefnyddio LibrarySearch, gallwch gofrestru gyda'ch Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru lleol, a fydd yn creu cyfrif personol i chi gael mynediad at adnoddau digidol a ffisegol sydd ar gael i chi.
GoogleScholar:
Os ydych yn defnyddio GoogleScholar, gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu "GIG Cymru" at eich rhestr o lyfrgelloedd - bydd hyn yn golygu y byddwch yn lleihau'r risg o daro waliau talu ar e-Adnoddau y dylech gael mynediad iddynt drwy'r tanysgrifiadau e-Lyfrgell:
Rydyn ni eisiau mwy!
Nawr yw’r amser i argymell e-Adnodd. A oes cyfnodolyn, cronfa ddata, canllaw, neu lwyfan y credwch y byddai'n gweddu’n dda, y gallai cydweithwyr ledled GIG Cymru ei ddefnyddio? Dweud eich dweud yn ein Hystafell Gyffredin neu gallwch e-bostio elibrary@wales.nhs.uk
Rydym yn adolygu ac yn ymchwilio i e-Adnoddau a argymhellir fel mater o drefn. Yna, gofynnwn i'n Hyrwyddwyr e-Lyfrgell ac arbenigwyr pwnc adolygu'r rhestr gan gymheiriaid i'n helpu i flaenoriaethu'r hyn sydd ei angen ar GIG Cymru, a beth allai fod angen aros ar y Rhestr Ddymuniadau ychydig yn hirach. Yna, mae'r rhestr yn cael ei gwirio'n derfynol gan ein Bwrdd Gwasanaeth.