Mae’n bleser gan yr e-Lyfrgell gyhoeddi bod yr ymarfer caffael ar gyfer yr e-adnodd Gwybodaeth am Feddyginiaethau cenedlaethol bellach wedi dod i ben. Gallwn gyhoeddi’n ffurfiol y bydd newydd IBM, MicroMedex Healthcare Series yn parhau i gael ei ddefnyddio fel yr e-adnodd cenedlaethol.
Sut y galla i ddod o hyd iddo?
Gallwch ddod o hyd i Micromedex Healthcare Series yn yr adran Cronfeydd Data bob amser.
Beth fydd yn digwydd nesaf:
Gallwch barhau i ddefnyddio MicroMedex Healthcare Series yn union fel y gwnaethoch o’r blaen: cael mynediad ar unwaith iddo ar rwydwaith GIG Cymru, neu drwy fewngofnodi gyda’ch cyfrif OpenAthens GIG Cymru.
Nid oes cyfrif OpenAthens gennych? Gallwch greu eich cyfrif ar unwaith gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost GIG Cymru a’ch cyfrinair “nadex” neu hunan-gofrestru am gyfrif os nad oes cyfrif e-bost GIG Cymru gennych.
Gwyliwch ein fideo am greu cyfrif OpenAthens i gael rhagor o gymorth.
Gweminarau a sesiynau hyfforddiant gan gyflenwyr
Byddwn yn trefnu cyfres o weminarau a sesiynau hyfforddiant wedi’u darparu gan y cyflenwyr i’ch helpu i gael y mantais fwyaf o’r e-adnodd cenedlaethol. Byddwn yn trefnu sesiynau ar gyfer:
Sylweddolwn ei bod yn anodd trefnu amser ar gyfer hyfforddiant ar unrhyw un o’r e-adnoddau, felly os na allwch gymryd rhan mewn sesiwn fyw, bydd yn cael ei recordio a’i hychwanegu at ardal Gwybodaeth Ymarferol y wefan, o dan Fideos a Gweminarau Hyfforddiant gan Gyflenwyr
Diolch am eich cefnogaeth.
Hoffai tîm yr e-Lyfrgell ddiolch yn ffurfiol i bawb sydd wedi cyfrannu a chymryd rhan ym mhob cam o’r ymarfer caffael, yn arbennig y sawl fu’n peilota’r Prawf Defnyddioldeb, a gymerodd ran yn y prawf, hyrwyddodd yr ymgyrch ac a roddodd eich adborth gwerthfawr i ni.
Mae rhagor o gwestiynau gen i
Hoffai tîm yr e-Lyfrgell glywed gennych! Defnyddiwch y ffurflen gysylltu yma neu anfonwch e-bost at elibrary@wales.nhs.uk