Neidio i'r prif gynnwy

Diddordeb mewn Cyhoeddi eich Gwaith?

Diddordeb mewn Cyhoeddi eich Gwaith?

Yn 2025, bydd e-Lyfrgell GIG Cymru yn dathlu ein hawduron!

Drwy gydol mis Chwefror byddwn yn cyflwyno ein hawduron cyhoeddedig, yn chwalu rhai o’r mythau ac egluro’r heriau a wynebir ar y daith i gyhoeddi eich gwaith, ac yn clywed gan gyhoeddwyr, golygyddion ac awduron, yn eu geiriau eu hunain, am eu profiad o gyhoeddi eu gwaith.

 

 Ydych chi wedi ymweld â thudalen gymorth yr e-Lyfrgell ar Gyhoeddi? Cewch hyd i gyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf yno: https://eli.gig.cymru/cymorth/cyhoeddi/

 

Sut i ddarganfod pa weithgareddau sydd wedi’u trefnu:

Mae pob math o ddigwyddiadau wedi’u trefnu, ac mae mwy eto i’w cyhoeddi. Ewch i galendr yr e-Lyfrgell i gael y dolenni cofrestru ar gyfer ein holl ddigwyddiadau

https://elh.nhs.wales/news1/e-library-calendar/

 

03/02/2025 10yb

Beth yw Mynediad Agored a pham ei fod mor bwysig? / What is Open Access and why is it so important?

 

04/02/2025 10yb

Dewis ble i gyhoeddi / Choosing where to publish

 

06/02/2025 12yp (POSTPONED)

Cyhoeddi Eich Gwaith: persbectif cyhoeddwr/ Getting Published: a publisher’s perspective: Wiley

 

06/02/2025 2yp

Cyhoeddi Eich Gwaith, persbectif mewnol/ Getting Published, an insider perspective: Prof. Peter Lepping

 

10/02/2025 10yb

Cyhoeddi Eich Gwaith: persbectif cyhoeddwr/ Getting Published: a publisher’s perspective BMJ

 

11/02/2025 10yb

Cyhoeddi Eich Gwaith: persbectif cyhoeddwr/ Getting Published: a publisher’s perspective British Journal of Nursing

11/02/2025 2yp

Gofynnwch i’r Llyfrgellydd/ Ask a Librarian

 

12/02/2025 2yp

Cyhoeddi Eich Gwaith, persbectif mewnol/ Getting Published, an insider perspective: Laura Ingham

 

13/02/2025 2yp (Rescheduled: 27/02/2025 2:30pm)

Cyhoeddi Eich Gwaith: persbectif cyhoeddwr/ Getting Published: a publisher’s perspective: Wolters Kluwer

 

17/02/2025 1yp

Cyhoeddi Eich Gwaith, persbectif mewnol/ Getting Published, an insider perspective: Madhurima Madhurima

 

20/02/2025 10yb

Cyhoeddi Eich Gwaith, persbectif mewnol Getting Published, an insider perspective: Rachel Gemine

 

 

20/02/2025 1yp

Cyhoeddi Eich Gwaith, persbectif mewnol/ Getting Published, an insider perspective: Naveen Madhavan

 

Rhywbeth yn y calendr yn barod? Dim problem!

 

 Mae’r rhan fwyaf o weminarau’r e-Lyfrgell yn cael eu recordio, felly trwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, byddwch yn cael y recordiad, hyd yn oed os na allech fod yn bresennol.

 

Eisiau mwy o gyngor?

Mae eich timau Llyfrgell a Gwybodaeth yn ffynonellau gwych ar gyfer cymorth a chyngor unigol. Ewch i https://eli.gig.cymru/gwasanaethau-llyfrgell/ i ddod o hyd i’ch tîm chi, neu e-bostiwch elibrary@wales.nhs.uk os nad ydych chi’n siŵr.

 

Mwy o ddigwyddiadau ar y gweill yn 2025

Oeddech chi’n gwybod ein bod ni’n dathlu Wythnos Llyfrgelloedd ac Wythnos Mynediad Agored yn yr un mis ym mis Hydref? Rydym yn bwriadu trefnu mwy o ddigwyddiadau am Gyhoeddi eich Gwaith ym mis Hydref 2025.

Ydych chi wedi cyhoeddi eich gwaith? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi am eich profiadau. elibrary@wales.nhs.uk