Mae gan holl ddefnyddwyr awdurdodedig e-Lyfrgell GIG Cymru bellach fynediad i The Maudsley Deprescribing Guidelines – adnodd cynhwysfawr a ddefnyddir i leihau neu stopio (dad-ragnodi) gwrthiselyddion, bensodiasepinau, gabapentinoidau a chyffuriau-z i gleifion yn ddiogel.
Mae’r adnodd newydd – sydd ar gael drwy dudalen Canllawiau e-Lyfrgell GIG yn ategu’r mynediad parhaus at at The Maudsley Prescribing Guidelines y bydd y 15fed golygiad ohono yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2025.
Mae Maudsley Deprescribing Guidelines yn rhoi arweiniad i glinigwyr trwy ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr ac awdurdodol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar yr agwedd bwysig hon ar driniaeth, sy’n deillio o’r ymchwil a’r mewnwelediadau diweddaraf o ymarfer clinigol (gan gynnwys gan gleifion arbenigol).
Mae Maudsley Deprescribing Guidelines yn ymdrin â phynciau fel:
Gallwch hefyd ddod o hyd i e-adnoddau eraill ar wefan e-Lyfrgell GIG Cymru, gan gynnwys dolenni i gronfeydd data ac offer i gefnogi gwybodaeth am feddyginiaethau.
Bydd tanysgrifiad i adnoddau yn gofyn i chi fewngofnodi gyda'ch cyfeiriad e-bost a chyfrinair GIG Cymru neu gyfrif OpenAthens GIG Cymru neu, os ydych ar un o wefannau GIG Cymru, mynediad ar unwaith trwy rwydwaith GIG Cymru.
A yw’r e-adnoddau yn cael effaith yn eich gwaith? Rhowch wybod i ni trwy rannu eich adborth