"Dylai pob nyrs plant gael y llyfr hwn fel cyfeirlyfr." Nursing Standard
Mae gan holl ddefnyddwyr awdurdodedig e-Lyfrgell GIG Cymru bellach fynediad i Great Ormond Street Hospital Manual of Children and Young People's Nursing Practices
Mae pawb sy’n gweithio ym maes pediatreg yn gwybod nad oedolion bach yw plant. Gall plant gael afiechydon penodol sy’n wahanol iawn i afiechydon oedolion. Dyna pam, er mwyn darparu’r gofal cywir i blant, ei bod hi’n hanfodol gwybod y triniaethau a’r canllawiau cywir sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi’u cyfeirio’n benodol at blant.
Mae’r Great Ormond Street Hospital Manual of Children and Young People’s Nursing Practices yn darparu canllawiau arbenigol ar driniaethau clinigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan helpu nyrsys i ddatblygu barn glinigol gadarn a hyder.
Mae’r llawlyfr ar gael drwy e-Lyfrgell GIG Cymru, ac mae’n cynnwys canllawiau ar gyfer mwy na 300 o driniaethau – o ofal newyddenedigol i ofal pobl ifanc. Mae’r llawlyfr yn dangos pob triniaeth ac yn sôn am yr heriau unigryw o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Mae penodau newydd yn trafod iechyd meddwl, therapïau cyflenwol, anawsterau dysgu, a’r plentyn sy’n dirywio, tra bod cynnwys estynedig yn archwilio pynciau fel monitro glwcos yn y gwaed, triniaeth glwcocorticoid, rhoi inswlin, gofal diabetes, diathermedd llawfeddygol, cymorth anadlu anfewnwthiol, a llawer mwy.
Mae’r Great Ormond Street Hospital Manual of Children and Young People’s Nursing Practices yn ategu’r Royal Marsden Manual of Clinical Nursing Procedures gan gynnig parhad i’r rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau oedolion a phediatrig.