Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Anawsterau Llyncu wedi'u hychwanegu at NEWT

Canllawiau Anawsterau Llyncu wedi'u hychwanegu at NEWT - 08/02/2024

Mae tîm canllawiau NEWT wedi datgan yn ddiweddar eu bod wedi cyhoeddi’r canllawiau newydd ar Anawsterau Llyncu ar NEWT.

Mae hon yn adran sy’n rhad ac am ddim i’w chyrchu ac mae’n ymdrin â rheoli gweinyddu meddyginiaethau i gleifion:

  • Sydd ag anawsterau llyncu
  • Sydd angen hylifau sydd wedi’u tewhau

Canllawiau NEWT - Anawsterau llyncu

 

Mae mynediad llawn at Ganllawiau NEWT ar gael trwy eich e-Lyfrgell GIG Cymru ac mae angen enw defnyddiwr a chyfrinair penodol pan nad ydych ar rwydwaith GIG Cymru. Os oes angen mynediad at NEWT arnoch, cysylltwch â thîm e-Lyfrgell GIG Cymru elibrary@wales.nhs.uk i gael gwybodaeth mewngofnodi gyfredol.

 

Dweud eich dweud!

A yw ein Canllawiau yn cael effaith ar eich gwaith? Ydy'r canllawiau hyn yn gweithio i chi?

Mae angen i e-Lyfrgell GIG Cymru wybod sut rydych chi'n teimlo am y canllawiau rydym yn tanysgrifio iddynt.

Mae eich adborth yn ein helpu i ddeall yr effeithiau, os o gwbl, y maent wedi'u cael ar eich gwaith ac yn eich rolau. Rydym hefyd am fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu.

Ffurflen adborth Canllawiau e-Lyfrgell GIG Cymru