Canllaw Pwnc newydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru
Cymerwch olwg ar y Canllaw Pwnc diweddaraf: Polisi Iechyd
Beth yw canllaw pwnc?
Mae Canllaw Pwnc yn crynhoi ac yn canolbwyntio ar ffynonellau gwybodaeth sy’n benodol i bwnc. Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn tyfu ei chasgliad o Ganllawiau Pwnc sydd wedi'u hanelu at ddefnyddwyr GIG Cymru ac maent yn offer gwych i weld pa wybodaeth allai fod ar gael ar bwnc penodol.
Mae ein canllaw pwnc diweddaraf, Polisi Iechyd, a ysgrifennwyd gan Naeem Yar (Llyfrgell Llywodraeth Cymru), yn rhoi dealltwriaeth gyfoethog a chynhwysfawr i ddarllenwyr o beth yw Polisi Iechyd, ac mae’n darparu terminoleg ddefnyddiol iawn i'w chynnwys yn ymchwil y darllenydd ei hun, yn ogystal â darparu dolenni i gronfeydd data, cyhoeddiadau, dysgu a hyfforddiant a llawer mwy.
Mae Naeem yn esbonio sut i ddefnyddio canllaw pwnc y Polisi Iechyd yn y fideo hwn (a recordiwyd ar 15 Rhagfyr 2021).
Ewch i Ganllaw Pwnc y Polisi Iechyd yma
Eisiau awgrymu Canllaw Pwnc newydd? Cyflwynwch eich ceisiadau yma.