Neidio i'r prif gynnwy

Bydd "MyAthens" OpenAthens yn newid o 1 Medi 2021

Beth sy’n newid?

O 1 Medi, ar ôl mewngofnodi, bydd tudalen defnyddiwr OpenAthens - MyAthens, yn edrych yn wahanol.  Fel rhan o'r newid gweledol hwn, bydd defnyddwyr nawr yn gweld newid i'r wybodaeth a gyflwynir pan fyddant yn mewngofnodi i https://www.openathens.net/  

 

Sut bydd hyn yn effeithio arna wrth fewngofnodi?

Byddwch yn mewngofnodi i OpenAthens yn union yr un ffordd ag arfer:

·         Os byddwch chi'n mewngofnodi i OpenAthens o'r adnodd y byddwch chi eisiau ei ddefnyddio, ni fyddwch yn gweld y newidiadau. 

Fodd bynnag:

·         Os byddwch chi'n defnyddio botwm mewngofnodi OpenAthens GIG Cymru ar y wefan e-Lyfrgell, neu o'ch gwasanaeth llyfrgell lleol NEU 

·         Os byddwch chi’n mynd yn uniongyrchol i OpenAthens i fewngofnodi i'ch cyfrif OpenAthens GIG Cymru.

Byddwch yn gweld y newidiadau a amlygir isod.

 

Sut olwg sydd ar MyAthens ar hyn o bryd?

Isod mae'r sgrin y mae defnyddwyr yn ei gweld pan fyddant yn mewngofnodi i OpenAthens yn uniongyrchol, neu o fotymau mewngofnodi OpenAthens GIG Cymru. 

Ar hyn o bryd, gall defnyddwyr weld eu cyfrif OpenAthens, sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch rhai o’r adnoddau sydd ar gael i'r defnyddiwr. 

Sut olwg fydd ar y newidiadau?

O 1 Medi, bydd y dudalen yn edrych yn debyg i rywbeth fel hyn:

Bydd defnyddwyr yn dal i allu gweld eu cyfrif OpenAthens, ond ni fydd y rhestr flaenorol o adnoddau ar gael mwyach.   Yn lle hyn, byddwch yn gweld dolen i e-Lyfrgell GIG Cymru, lle mae adnoddau electronig wedi'u curadu yn cael eu lletya er mwyn darparu mynediad a defnydd hawdd atynt. Bydd yr adnoddau yn cynnwys fideos cymorth, canllawiau, a gwybodaeth bellach i'ch cynorthwyo gyda'r e-adnoddau cenedlaethol sydd ar gael. 

 

 Beth am fy adnoddau lleol?

Yn ogystal â hyn, byddwch yn gweld adnoddau a gwybodaeth a ddarperir gan Wasanaeth Llyfrgell GIG Cymru. Bydd hyn yn cynnwys dolenni i fanteisio ar gynhyrchion a gwasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth Llyfrgell GIG Cymru.

 

Mae gen i gwestiynau o hyd

Dylech gysylltu â'ch gwasanaeth llyfrgell lleol yn y lle cyntaf.  Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth llyfrgell lleol yma: https://www.nhswls.org/contactyourlibrary

Nid ydych chi'n aelod o wasanaeth llyfrgell lleol?  Anfonwch e-bost at:elibrary@wales.nhs.uk a bydd y tîm e-Lyfrgell yn hapus i'ch helpu chi.