Beth sydd ar gael yn yr e-Lyfrgell? Ffocws ar e-adnoddau Nyrsio a Bydwreigiaeth e-Lyfrgell GIG Cymru
Oeddech chi'n gwybod bod yr e-Lyfrgell wedi amlinellu sawl amcan allweddol ar gyfer 2021-22 i gefnogi gweithwyr proffesiynol Nyrsio a Bydwreigiaeth yn GIG Cymru? A chyda 2022 ar y gorwel, roeddem yn meddwl mai hwn oedd yr amser perffaith i dynnu sylw at yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn 2021, a'r hyn sydd eisoes wedi'i gynllunio ar gyfer 2022
Beth yw'r e-Lyfrgell a phwy all ei ddefnyddio?
Gadewch i ni fynd i'r afael â rhai o'n cwestiynau mwyaf yn gyntaf:
Beth yw'r e-Lyfrgell? Wel, mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn rhoi mynediad at filoedd o e-adnoddau presennol ac arferion gorau i unrhyw un sy'n cael eu cyflogi neu eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau GIG Cymru, yn ogystal â llawer o rai eraill sy'n darparu iechyd a gofal i boblogaeth Cymru.
Sut mae’n gweithio?
Drwy rwydwaith GIG Cymru neu fewngofnodi trwy OpenAthens <https://youtu.be/J33AfDgTezA>, gall ein gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol gael mynediad ar unwaith at gynnwys sy'n cefnogi gweithio ar sail tystiolaeth, gan rannu arferion da a datblygiad proffesiynol megis ail-ddilysu gan y rhai ar y rheng flaen i'r arweinwyr a'r mentoriaid yn ein gweithlu.
Felly, beth wnaethon ni yn 2021?
Cydweithio ar draws GIG Cymru
Buom yn gweithio gyda swyddfa Prif Swyddog Nyrsio Cymru i wneud adnoddau e-ddysgu, megis RCNi Learning, a ariannwyd gan y Prif Swyddog Nyrsio, yn haws i bob gweithiwr nyrsio a bydwreigiaeth proffesiynol ar draws GIG Cymru gael gafael arno, yn ogystal â'r e-adnoddau Cenedlaethol y mae’r e-Lyfrgell yn tanysgrifio iddo, megis BMJ Learning.
Rydym yn parhau i gydweithio â'r Prif Swyddog Nyrsio a'i thîm ac rydym yn gyffrous iawn i fod yn cynllunio ar gyfer mwy o ddigwyddiadau ar gyfer 2022 a chyfleoedd sy'n tynnu sylw at feysydd blaenoriaeth allweddol yn GIG Cymru.
Gwnaethom gynnal gweithdai ac arddangosiadau gyda'r Gyfarwyddiaeth Nyrsio a Bydwreigiaeth yn AaGIC, gydag Ysgolheigion Digidol Sefydliad Florence Nightingale, Nyrsys Gwybodeg Glinigol, a chawsom ein gwahodd i roi Teithiau Tywys o’r e-Lyfrgell i lawer o dimau unigol ar draws GIG Cymru.
Integreiddio
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda phrosiectau nyrsio, fel Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, gan gysylltu e-adnoddau fel Clinical Key ar gyfer Nyrsio a Royal Marsden Manual yn y system er mwyn ei gwneud hyd yn oed yn haws cael gafael ar dystiolaeth lle mae gofal yn cael ei ddarparu.
Podlediadau
Roedd yr e-Lyfrgell mor gyffrous pan ddaeth tîm recordiau Gofal Nyrsio Cymru i siarad â ni ar gyfer Podlediad Gofal Iechyd Digidol Cymru: Yn cyflwyno Cofnod Gofal Nyrsio Cymru
Ond nid Cofnod Gofal Nyrsio Cymru oedd ein hunig bodlediad nyrsio cyffrous eleni, buom hefyd yn siarad â Nyrsys eraill a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd sydd wedi bod yn gweithio ar System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru.
Digwyddiadau ar-lein
Er nad ydym wedi gallu dod i ymweld â chi eleni, rydym wedi dal i gael llawer o ddigwyddiadau ar-lein difyr a diddorol, fel yr Expos E-lyfrgell a gynhaliwyd ym mis Mai, Medi a Rhagfyr, lle buom yn gwrando ar:
BMJ ac anghydraddoldebau iechyd – BMJ Journals, BMJ Best Practice
Clinical Key – Datblygu ymdrechion amrywiaeth yn yr amgylchedd clinigol: y ‘pam’ a’r ‘sut’
Sut i ddod o hyd i lenyddiaeth benodol gan ddefnyddio cronfa ddata MIDIRS
Effeithiau cymdeithasol a seicolegol y pandemig – adolygiad llenyddiaeth Uwch ar ProQuest
Cefnogi Llesiant ac Urddas ymysg pobl hŷn gan ddefnyddio CINAHL Plus with Full Text
A gwnaethom gynnal gweminarau pwrpasol ar e-adnoddau mwy newydd sydd o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol Nyrsio a Bydwreigiaeth megis:
CINAHL Plus FT Beginner 2021 a Searching CINAHL Plus FT Advanced
IBM Micromedex New users a Micromedex Advanced users
Cynhaliwyd cyfres arall hefyd o Dod o hyd i Wybodaeth: Cyflwyniad i Wybodaeth ac Adnoddau a Chwilio am Lenyddiaeth. Gallwch weld y gyfres lawn a gynhaliwyd yn 2021 isod:
Beth yw rhai pynciau llosg ar gyfer gweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth proffesiynol GIG Cymru?
Isod rydym wedi creu rhai chwiliadau pwnc i helpu i ddangos y mathau o adnoddau sydd ar gael i gefnogi arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth:
Goruchwyliaeth glinigol, tiwtoriaeth, mentoriaeth
Mae pob chwiliad yn cynnwys penodau ac erthyglau e-Lyfrau o deitlau nyrsio craidd megis Nursing Standard, British Journal of Nursing, Journal of Nursing Management, Nursing Outlook, Journal of Advanced Nursing a mwy. Chwiliwch ein e-Gyfnodolion.
Llawlyfr Gweithdrefnau Nyrsio Clinigol a Chanser Royal Marsden, Pennod 4, Atal a rheoli heintiau
Llawlyfr Gweithdrefnau Nyrsio Clinigol a Chanser Royal Marsden, Pennod 19, Hunan-ofal a llesiant
ClinicalKey for Nursing: trosolwg clinigol, addysg cleifion, treialon clinigol a mwy
Cronfeydd Data: CINAHL, Cronfa Ddata Nyrsio Prydain, Gofal Mamolaeth a Babanod