Neidio i'r prif gynnwy

2–8 Mehefin yw Wythnos Llyfrgelloedd yn Newid Bywydau.

2–8 Mehefin yw Wythnos Llyfrgelloedd yn Newid Bywydau.

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn ymuno i ddathlu sut mae llyfrgelloedd yn cynnal twf economaidd, a thrafod beth allwch chi ei wneud i helpu E-Lyfrgell GIG Cymru.

Ein Stori.

Llyfrgell ddigidol sy’n cefnogi gwybodaeth iechyd a gofal ledled Cymru yw E-Lyfrgell GIG Cymru.

Ein prif swyddogaeth yw darparu gwerth am arian drwy dendro cystadleuol ac adolygu e-adnoddau’n barhaus, gan weithio tuag at ddull ‘Unwaith i Gymru’.

Fel gwasanaeth cenedlaethol, rydyn ni’n caffael adnoddau digidol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru – gan newid ac osgoi dyblygu tanysgrifiadau i’r un adnoddau hynny. Mae hyn yn cynnig gwell gwerth am arian, rheoli contractau gofalus, a mynediad teg at wybodaeth o ansawdd uchel sydd wedi’i hadolygu gan gymheiriaid. Mae hyn yn cefnogi ein partneriaid yng Ngwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru i gaffael adnoddau arbenigol yn lleol, gan ryddhau eu hamser i gefnogi eu defnyddwyr yn well i ddod o hyd i, adalw a defnyddio gwybodaeth.

Sut rydyn ni’n darparu gwerth am arian.

Mae ein polisi Datblygu Casgliadau yn llywio sut rydyn ni’n curadu ein hadnoddau yn yr e-Lyfrgell – o adolygu defnydd, cost fesul defnydd, a gweithredu ar adborth gan ddefnyddwyr.

 

Dydyn ni ddim yn gwneud hyn ar ein pennau ein hunain.

Mae ein defnyddwyr wrth wraidd gwasanaeth e-Lyfrgell GIG Cymru. Rydyn ni’n gofyn am eu cyngor ac yn gwrando ar eu hadborth er mwyn i ni allu dangos tystiolaeth bod yr adnoddau rydyn ni’n eu caffael yn bodloni ystod eang o anghenion a phroffesiynau.

Rydyn ni’n cynnal arolygon agored y gall defnyddwyr eu cwblhau unrhyw bryd drwy gydol y flwyddyn i ddweud wrthym ni sut mae’r adnoddau cenedlaethol wedi effeithio ar eu gwaith.

Dyma beth mae pobl wedi’i ddweud am e-Lyfrgell GIG Cymru:

  • “Mae’r e-Lyfrgell yn adnodd digidol hanfodol o ansawdd uchel ar gyfer GIG Cymru i gyd.”
  • Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw ‘Waw’, mae’n wych cael mynediad at adnoddau o’r fath
  • …mae’r e-Lyfrgell yn ddefnyddiol iawn ac rydym yn awyddus i ddefnyddio unrhyw adnoddau sydd ar gael i helpu ein hymarferwyr [Gofal Cymdeithasol] lle bynnag y gallwn.

Mae’r adnoddau’n cefnogi ymchwil ac ymarfer clinigol lle darperir gofal:

Gyda Chanllawiau

“Mae cael mynediad cenedlaethol at Ganllawiau NEWT wedi arbed amser gan fod Fferyllwyr Gwybodaeth am Feddyginiaethau wedi gallu cynghori meddygon teulu am eu mynediad at ganllawiau ‘myNEWT’ yn hytrach na gorfod e-bostio ffeiliau PDF perthnasol. Mae hyn yn golygu y gallan nhw roi gwybodaeth i’r claf/gofalwr yn uniongyrchol yn ystod eu hymgynghoriad yn hytrach na gorfod cysylltu â ni ac aros am e-bost.” (Mae Canllawiau NEWT yn adnodd ar gyfer fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy’n darparu neu’n rhoi meddyginiaethau i gleifion ag anawsterau llyncu.)

Gyda Chrynodebau Tystiolaeth

  • Mae defnyddwyr wedi manylu ar sut maen nhw wedi defnyddio ClinicalKey i ddangos tystiolaeth o ddefnyddio ‘llai o opioidau systemig’ yn ystod beichiogrwydd i ‘leihau’r risg o ddiddyfnu [i’r] babi’
  •  Mae defnyddio’r offeryn cydafiacheddau yn BMJ Best Practice ‘yn cynyddu … dealltwriaeth o drin gwahanol gyflyrau cydafiach, yn enwedig mewn Unedau Gofal Dwys ac Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys…’
  • ‘gwirio Glwcos yn y Gwaed yn rheolaidd os caiff ei nodi oherwydd cydafiachedd/defnyddio steroidau… Mae manylion fel hyn yn hawdd eu colli pan fyddwch chi’n brysur.’

(Mae Crynodebau Tystiolaeth – neu Offer Cefnogi Penderfyniadau – yn e-adnoddau ymchwil a chyfeirio y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu defnyddio yn y fan a’r lle wrth roi gofal i gleifion.

Gyda Chronfeydd Data Cyfeiriadau

  • Canfuwyd bod y defnydd o Scopus gan weithwyr proffesiynol llyfrgell a gwybodaeth yn GIG Cymru yn cael effaith ar bolisi iechyd a gofal neu ddatblygiad gwasanaethau yn ehangach. Er enghraifft, i ‘lywio trafodaethau gyda Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Plant Gogledd Cymru ynghylch cydweithio i wella’r gefnogaeth sydd ar gael ar draws y rhanbarth’, ‘sut i wneud defnydd gwell a diogel o … ganolfannau llawfeddygol yng Nghymru’,
  • ‘i ddod o hyd i dystiolaeth ar … hunan-brofi am HIV, y mae’r dystiolaeth ohoni wedi cael ei defnyddio mewn negeseuon yn yr ymgyrch ar Wythnos Profi HIV yng Nghymru.’

(Mae Scopus yn gronfa ddata cyfeiriadau y gellir ei defnyddio i chwilio am lenyddiaeth ond sydd hefyd yn galluogi defnyddwyr i olrhain cyfeiriadau a gwirio, er enghraifft, pa erthyglau neu gyfnodolion a ddyfynnir amlaf ac sy’n arddangos effaith.)

Arolygog adborth Cymraeg

Cronfeydd Data: Arolwg Adborth

Arolygog adborth Cymraeg

MedicinesComplete: Arolwg Adborth

e-Ddysgu: Arolygon adborth