Neidio i'r prif gynnwy

MedicinesComplete: Rydyn ni eisiau eich adborth

Mae’r adnodd Gwybodaeth am Feddyginiaethau “MedicinesComplete” wedi bod ar gael drwy e-Lyfrgell GIG Cymru ers 1 Medi.

 

Ac fe hoffem ni nawr glywed eich argraffiadau cyntaf.

 

Ydy MedicinesComplete yn cael effaith ar eich gwaith? Ydy’r adnodd yn gweithio i chi? Rhowch wybod i ni trwy gwblhau’r arolwg byr hwn:

https://forms.office.com/e/qKDX6tfRz8

 

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru angen gwybod sut rydych chi’n teimlo am ein tanysgrifiad i MedicinesComplete, gan gynnwys y modiwlau unigol sydd ynddo (e.e. Y Llyfr Fformiwlâu Gofal Lliniarol, Stockley’s ac ati).

Mae eich adborth yn ein helpu i ddeall yr effeithiau, os o gwbl, y mae wedi’i gael ar eich gwaith ac yn eich rolau. Rydyn ni hefyd eisiau manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu.

Gellir cyrchu MedicinesComplete o: https://eli.gig.cymru/gwybodaeth-am-feddyginiaethau/tudalennau-glanio/medicines-complete/

 

Ni ddylai’r arolwg hwn gymryd mwy na 8 munud i’w gwblhau. Sicrhewch nad oes unrhyw wybodaeth bersonol neu wybodaeth adnabyddadwy claf yn cael ei chynnwys i sicrhau cyfrinachedd ac aros yn ddienw.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r arolwg hwn, mae croeso i chi gysylltu â thîm yr e-Lyfrgell: elibrary@wales.nhs.uk