Offeryn dilysu yw OpenAthens sy'n galluogi mynediad awdurdodedig at e-adnoddau a systemau ac sy'n eiddo i Jisc.
Cymhwysedd
Nid oesangen i unrhyw ddefnyddwyr sydd â chyfeiriad e-bost GIG Cymru hunan-gofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens gan fod eu cyfrifon yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig pan fyddant yn mewngofnodi i unrhyw un o’r e-adnoddau am y tro cyntaf.
Mewngofnodwch, dewiswch yr opsiwn "cyfeiriad e-bost GIG Cymru", rhowch eich manylion, a byddwch wedi mewngofnodi i ddefnyddio'r holl adnoddau nes i chi gau sesiwn eich porwr.
Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost GIG Cymru, gallwchhunan-gofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens. Rhaid i chi fod yn ddefnyddiwr awdurdodedig er mwyn cael mynediad at yr e-Lyfrgell ac maerhestr lawn o ddefnyddwyr awdurdodedig i'w gweld yma. Noder y gallai’r rhestr o ddefnyddwyr awdurdodedig amrywio ar gyfer tanysgrifiadau Byrddau Iechyd lleol, Ymddiriedolaethau neu Adrannau i e-Adnoddau.
Telerau Defnydd
Fel un o amodau e-Lyfrgell GIG Cymru a JISC i ganiatáu ichi ddefnyddio OpenAthens er mwyn cael mynediad at adnoddau a systemau e-Lyfrgell, rydych yn cytuno fel a ganlyn:
- Ar gyfer defnyddwyr hunan-gofrestredig: i gadw manylion eich cyfrif OpenAthens yn gyfrinachol a pheidio â chaniatáu i unrhyw drydydd parti ei ddefnyddio. Bydd hyn yn golygu y gallai unrhyw un sy’n torri hyn gael ei wahardd neu ei gyfyngu rhag defnyddio ei gyfrif OpenAthens
- Defnyddio’r cyfrif dim ond at y dibenion y cafodd ei gyflwyno i chi gan eich sefydliad. Hynny yw, er mwyn cael mynediad at e-Adnoddau sydd wedi’u trwyddedu i e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru neu eich Bwrdd Iechyd lleol, Ymddiriedolaeth neu Adran
- Cytuno y gall JISC gasglu, storio a defnyddio gwybodaeth amdanoch chi yn unol â’upolisi preifatrwydd
- Cytuno y gallai OpenAthens/Eduserv gasglu, storio a defnyddio gwybodaeth amdanoch chi yn unol â’u polisi preifatrwydd ac y bydd yr wybodaeth yn hygyrch i’ch gweinyddwr OpenAthens lleol yn ogystal â’r gweinyddwr cenedlaethol sydd oll yn gyfrifol am gynnal y system a rhoi gwybodaeth i chi am eich cyfrif OpenAthens a’r e-Adnoddau sydd ar gael.
- Cytuno, ar ôl mewngofnodi, y bydd eich enw cyntaf, cyfenw a chyfeiriad e-bost yn cael eu rhannu o JISC â system Ex Libris Alma, yn unol â’u polisi preifatrwydd, er mwyn cefnogi’r gwaith o greu cyfrifon LibrarySearch GIG Cymru
- Deall os nad ydych yn cydymffurfio â’r amodau hyn, gallech fod yn destun gweithdrefnau disgyblu a chamau cyfreithiol, a bod e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn cadw’r hawl i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw unigolyn sy’n achosi iddo fod yn rhan o achos cyfreithiol oherwydd ei fod wedi torri ei gytundebau trwyddedu
Mae defnyddio OpenAthens GIG Cymru yn dynodi eich cytundeb i’r uchod aThelerau ac Amodau e-Lyfrgell GIG Cymru