Neidio i'r prif gynnwy

Y broses gofrestru

Oes gennych chi gyfeiriad e-bost GIG Cymru? 

Os mai 'oes' yw'r ateb, mae gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch i greu eich cyfrif OpenAthens ar unwaith. 

  • Cyfeiriad e-bost GIG Cymru
  • Y cyfrinair y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich cyfeiriad e-bost GIG Cymru (cyfrinair NADEX)

Cam 1:

Mae angen i chi ddefnyddio sgrin mewngofnodi OpenAthens GIG Cymru.

I gyrraedd y sgrin honno, cliciwch yma: Mewngofnodwch i ddatgloi mynediad i adnoddau e-Lyfrgell GIG Cymru o'r tanysgrifiadau cenedlaethol.  

 Cam 2: dewiswch yr opsiwn uchaf  “NHS Wales e-mail address” a fydd yn mynd â chi i’r sgrin mewngofnodi GIG Cymru gyfarwydd a ddefnyddir gan lawer o systemau digidol GIG Cymru.

Pan fyddwch wedi mewngofnodi'n llwyddiannus, gallwch adael OpenAthens. Cyhyd â bod eich porwr yn parhau ar agor, byddwch yn parhau i fod wedi’ch “mewngofnodi” a dylech gael eich cydnabod gan yr holl e-adnoddau trwyddedig a reolir gan yr e-Lyfrgell, ac unrhyw e-adnoddau y tanysgrifir yn lleol iddynt gan eich Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru.  

I wylio’r broses hon, gallwch wylio’r fideo yma

 

Os byddwch yn cael eich comisiynu i ddarparu gwasanaethau GIG Cymru, ond nid oes gennych gyfeiriad e-bost GIG Cymru:

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens GIG Cymru

Sut alla i gael cyfrif OpenAthens GIG Cymru?

Bydd angen i chi hunan-gofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens GIG Cymru. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i sicrhau y bydd eich ffurflen yn cael ei phrosesu cyn gynted â phosibl er mwyn eich galluogi i ddefnyddio'r e-adnoddau sydd eu hangen arnoch! 

Cwblhewch yr holl wybodaeth orfodol. Mae angen i chi ddewis y sefydliad GIG priodol sy'n berthnasol i chi. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweinyddwr OpenAthens yn derbyn eich ffurflen. Gweler y llun isod a gwyliwch y fideo hwn os oes angen rhagor o gymorth arnoch.  Neu anfonwch e-bost at dîm yr e-Lyfrgell elibrary@wales.nhs.uk

Ar ôl i chi lenwi'ch ffurflen, bydd eich cyfrif yn cael ei greu, a bydd eich gweinyddwr OpenAthens lleol yn cael ei hysbysu am hyn. Bydd yn cymeradwyo eich cyfrif ac yn trefnu cyfrif catalog y llyfrgell hefyd.  Gellir cael mynediad i gatalog ein llyfrgell, LibrarySearch GIG Cymru, o'n hafan.