Oes gennych chi gyfeiriad e-bost GIG Cymru?
Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, mae gennych bopeth sydd ei angen arnoch i gael mynediad ar unwaith at adnoddau e-Lyfrgell GIG Cymru.
Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost GIG Cymru, gallwch gael mynediad o hyd. Cliciwch yma i weld sut.
Cam 1:
Mae angen i chi ddefnyddio sgrin mewngofnodi e-Lyfrgell GIG Cymru.
Component has been removed through translation. Check with originating site of what this should be.
I gyrraedd y sgrin honno gallwch glicio yma: Mewngofnodwch i ddatgloi mynediad i adnoddau e-Lyfrgell GIG Cymru o'r tanysgrifiadau cenedlaethol.
Cam 2: Dewiswch yr opsiwn uchaf “cyfeiriad e-bost GIG Cymru” a fydd yn mynd â chi i sgrin mewngofnodi GIG Cymru gyfarwydd a ddefnyddir gan lawer o systemau digidol GIG Cymru.
Component has been removed through translation. Check with originating site of what this should be.
Pan fyddwch wedi mewngofnodi'n llwyddiannus gallwch gau tudalen we OpenAthens. Cyhyd â bod eich porwr yn parhau ar agor, byddwch yn parhau i fod wedi “mewngofnodi” a dylech gael eich cydnabod gan yr holl e-adnoddau trwyddedig a reolir gan yr e-Lyfrgell, ac unrhyw e-adnoddau y tanysgrifir yn lleol iddynt gan eich Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru.
I wylio'r broses hon, gallwch weld y fideo yma
Os cewch eich comisiynu i ddarparu gwasanaethau GIG Cymru, ond nid oes gennych gyfeiriad e-bost GIG Cymru:
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens GIG Cymru
Sut mae cael cyfrif OpenAthens GIG Cymru?
Bydd angen i chi hunan-gofrestru ar gyfer cyfrif OpenAthens GIG Cymru , a dyma rai awgrymiadau defnyddiol i sicrhau bod eich ffurflen yn cael ei phrosesu cyn gynted â phosibl er mwyn eich galluogi i ddefnyddio'r e-adnoddau sydd eu hangen arnoch!
Cwblhewch yr holl wybodaeth orfodol. Mae angen i chi ddewis y Sefydliad GIG priodol sy'n berthnasol i chi. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweinyddwr OpenAthens yn derbyn eich ffurflen. Gweler y llun isod a gwyliwch y fideo hwn os oes angen mwy o help arnoch. Neu anfonwch e-bost at dîm yr e-Lyfrgell elibrary@wales.nhs.uk
Component has been removed through translation. Check with originating site of what this should be.
Ar ôl i chi lenwi'ch ffurflen, caiff eich cyfrif ei greu, a bydd eich gweinyddwr OpenAthens lleol yn cael ei hysbysu. Byddant yn cymeradwyo eich cyfrif ac yn trefnu cyfrif Llyfrgell GIG Cymru hefyd, a fydd yn caniatáu mynediad llawn i chi i gatalog llyfrgell GIG Cymru. Gellir cyrchu catalog ein llyfrgell, LibrarySearch, o'n hafan .