Mae Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (WMAS) yn darparu gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol arbenigol ac yn cefnogi gwaith y gwasanaethau cyngor meddyginiaethau lleol ledled Cymru.
Darperir gwasanaethau ateb ymholiadau ar gyfer cwestiynau sy'n ymwneud â meddyginiaethau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gyfer pob bwrdd iechyd, ac mae gan rai gwasanaethau linellau cymorth i gleifion ar gyfer cwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. Dewch o hyd i fanylion eich gwasanaeth lleol ar wefan WMAS.