Neidio i'r prif gynnwy

PocketMedic

07/08/19
PocketMedic

Cafodd PocketMedic ei greu gan eHealth Digital Media, sef cwmni cyfathrebu digidol sy’n gwneud ac yn darparu cynnwys o ansawdd uchel yn ymwneud ag iechyd. Caiff ffilmiau gwybodaeth eu ‘presgripsiynu’ gan glinigwyr i gefnogi eu cleifion i ddod yn fwy o ‘arbenigwyr’ wrth reoli eu hafiechydon cronig. Platfform digidol yw PocketMedic sy’n galluogi clinigwyr ym meysydd gofal sylfaenol, eilaidd neu yn y gymuned i anfon presgripsiynau yn seiliedig ar ffilm i gleifion er mwyn eu helpu i reoli eu hafiechydon cronig. Gellir gwylio’r rhain ar ffonau symudol, llechi neu gyfrifiaduron.

07/08/19
Diabetes (PocketMedic)

Mae gwerthusiad gwasanaeth yn dangos bod y bobl sydd wedi gwylio’r ffilmiau a grëwyd gan Rwydwaith Diabetes Cymru, DUK a Gwasanaethau’r Gweithlu, Addysg a Datblygu, wedi gwneud gwelliannau yn y ffordd maent yn rheoli glwcos yn y gwaed.

07/08/19
Lymffoedema (PocketMedic)

​Mae Rhwydwaith Lymffoedema Cymru wedi creu canllawiau cynhwysfawr i ddeall a hunan-reoli lymffoedema.

07/08/19
Canser (PocketMedic)

Mae’r ffilmiau hyn, a grëwyd mewn cydweithrediad rhwng Macmillan ac Ysbytai Unedig Brenhinol Caerfaddon, yn cefnogi cleifion sydd newydd orffen eu triniaeth yn yr ysbyty.

07/08/19
Briwiau Pwyso (PocketMedic)

Cafodd y ddwy ffilm eu creu gan Wasanaeth Atal ac Ymyrryd Briwiau Gwasgu (PUPIS) er mwyn codi ymwybyddiaeth.