Neidio i'r prif gynnwy

BMJ Learning

Mae BMJ Learning yn cynnig addysg feddygol barhaus o ansawdd uchel i feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Mae’n cynnwys cannoedd o fodiwlau dysgu achrededig a adolygwyd gan gymheiriaid ar ffurf testun, fideo a sain.

Pan fyddwch yn mewngofnodi i BMJ Learning, byddwch yn gweld eich tudalen hafan bersonol, sy’n dangos modiwlau wedi’u teilwra i chi, yn seiliedig ar eich proffesiwn, eich arbenigedd a’ch lleoliad. Mae hyn yn sicrhau bod dewis y modiwlau cywir ar gyfer eich Addysg Feddygol Barhaus / Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn gynt ac yn haws.

Mynd at BMJ Learning